Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

20/01/20
Wythnos Atal Canser Serfigol: Llawfeddyg Gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd yn annog merched i gael prawf sgrinio serfigol

I nodi Wythnos Atal Canser Serfigol, mae'r Oncolegydd Ymgynghorol Gynaecoleg, Richard Peevor yn annog merched i sicrhau bod eu profion ceg y groth yn gyfredol.

14/01/20
Cwpwl yn diolch i dîm Cardiaidd Wrecsam a Sir y Fflint a helpodd nhw i ddechrau ar eu ffordd o fyw iach a arweiniodd atynt i golli 10 stôn rhyngddynt

Mae cwpwl o Sir y Fflint wedi diolch i staff y GIG ar ôl iddynt golli bron i 10 stôn rhyngddynt gyda help Gwasanaeth Cardiaidd Wrecsam a Sir y Fflint.

13/01/20
Rhaglen ddogfen newydd yn dangos yr heriau a'r gwobrau o fod yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd

Mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn sêr ar raglen ddogfen newydd sy'n dilyn eu bywydau ar y wardiau. 

09/01/20
Norofirws – lledaenwch y gair, nid y firws!

Gofynnir i bobl beidio ag ymweld ag ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill ar draws Gogledd Cymru os ydynt wedi cael unrhyw un o symptomau'r norofirws yn ddiweddar.

09/01/20
Gwahoddiad i ymuno â Chôr Cyngerdd Awyr Las I CAN

Bydd y côr yn  defnyddio cerddoriaeth i godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo gwella iechyd emosiyol a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau salwch meddyliol a ffactorau all effeithio ar ein llesiant yn chwilio am aelodau newydd.

06/01/20
Deg Awgrym Da ar Sut i Guro Hwyliau Gwael Mis Ionawr

Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu deg awgrym da ar sut i guro hwyliau gwael Mis Ionawr.

31/12/19
Edward yn dathlu ei ben-blwydd drwy ganu'r gloch newydd diwedd triniaeth yn Uned Plant Ysbyty Glan Clwyd

Dathlodd bachgen ifanc o Dreffynnon ei ben-blwydd mewn steil drwy fod y plentyn cyntaf i ganu’r gloch newydd diwedd triniaeth yn Uned Plant Ysbyty Glan Clwyd. Dathlodd Edward Kelly, sy'n bedair mlwydd oed, ddiwedd ei ofal yn yr ysbyty drwy ganu'r gloch newydd ar gyfer cleifion paediatrig sy'n cwblhau eu triniaeth oncoleg.

23/12/19
Codwyr arian o Wrecsam yn rhoi hwb i wasanaethau canser y brostad

Mae mwy na £4,000 wedi'u codi mewn digwyddiad elusennol yn ddiweddar yng Nghlwb Golff Wrecsam tuag at brynu peiriant cryotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Maelor Wrecsam.

20/12/19
Addysgu disgyblion o Gaernarfon am ffonio 999

Mae aelod o dîm theatr Ysbyty Gwynedd yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall pa beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn ffonio 999 a sut i ddefnyddio'r gwasanaeth brys yn gyfrifol.

19/12/19
Nyrs 'ysbrydoledig' yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei chydnabod gyda gwobr arbennig

Mae nyrs yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi'i disgrifio fel 'esiampl wych i bawb' wedi derbyn gwobr arbennig.

18/12/19
Agorwyd Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn swyddogol gan y Gweinidog dros Iechyd

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

16/12/19
Gofalu am eich cluniau dros y Gaeaf

Mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ar ôl torri eu cluniau ar draws Gogledd Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

16/12/19
Camu i Waith yn helpu Nick serennu i dîm gwasanaethau ysbyty

Mae dyn o Brestatyn wedi dod yn rhan amhrisiadwy o dîm gwasanaethau Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael cefnogaeth trwy raglen dychwelyd i'r gwaith. Mae Nick Selway, a gollodd ei fraich dde mewn damwain yn y gweithle 16 mlynedd yn ôl, yn ôl mewn gwaith ar ôl cymryd rhan yn rhaglen Camu i Waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

16/12/19
Mae'n iawn i beidio bod yn iawn y Nadolig hwn

Mae Seiciatrydd Ymgynghorol blaenllaw yn galw ar bobl ar draws Gogledd Cymru i gymryd camau syml i ofalu am eu hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig.

13/12/19
Mam o Brestatyn yn croesawu cronfa newydd i ddarparu prostheteg chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru

Mae disgwyl i ferch bum mlwydd oed o Brestatyn, y cafodd dau o'i haelodau eu tynnu i ffwrdd ar ôl ei phenblwydd cyntaf, gael budd o gyllid newydd ar gyfer prostheteg chwaraeon.

13/12/19
Prosiect arloesol sydd wedi'i gynllunio i leihau'r pwysau ar wasanaethau ysbyty'n dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus

Mae dros 5000 o gleifion ar draws Gogledd Cymru wedi cael budd o gydweithrediad arloesol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST). 

12/12/19
Rhodd sylweddol i uned gofal arbennig i fabanod yn Wrecsam am yr anrheg Nadolig gorau erioed

Mae cwpl wedi diolch i staff yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Maelor Wrecsam am y gofal a achubodd fywyd eu merch drwy roi cyfraniad i ddathlu ei phen-blwydd yn 21.

10/12/19
Merch o Wrecsam yn rhoi teyrnged i effaith gwasanaeth newydd MI FEDRAF "sy'n newid bywyd"

Mae merch o Wrecsam wedi rhoi teyrnged i effaith gwasanaeth iechyd meddwl newydd "sy'n newid bywyd" a helpodd hi drwy ei horiau tywyllaf.

 

05/12/19
Ffisiotherapydd o Ogledd Cymru yw'r Hyrwyddwr Cyhyrsgerbydol Versus Arthritis cyntaf yng Nghymru

Mae ffisiotherapydd o Ogledd Cymru wedi ymuno â chymuned elitaidd o arweinwyr clinigol newid mewn gwasanaethau iechyd cyhyrysgerbydol (MSK).

02/12/19
Tîm Addysg Feddygol yn mynd yn ôl i'r dyfodol i helpu egin feddygon

Mae tîm Addysg Feddygol yng Ngogledd Cymru wedi rhannu eu sgiliau a'u profiadau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon.