Ni all unedau mân anafiadau drin cleifion sydd yn cael poen yn y frest, problemau anadlu, poen yn yr abdomen, problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gorddos cyffuriau, problemau gynaecoleg, cyflyrau iechyd sy'n cael eu trin fel arfer gan feddyg teulu fel mân salwch, problemau iechyd meddwl, problemau deintyddol, anaf i'r gwddf, anaf i'r frest neu'r cefn, neu wedi llewygu. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Os yw'r claf yn dal yn ansicr, mae'n well ffonio'r Uned Mân Anafiadau, i'n galluogi i roi'r claf yn y lle iawn, ar yr amser iawn, y tro cyntaf.
Mae'r Unedau Mân Anafiadau (MIUs) yn cael eu staffio gan ymarferwyr brys profiadol sy'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr gofal iechyd ac nid oes meddygon yn yr Unedau Mân Anafiadau. Bydd cleifion sy'n mynychu un o'r unedau yn cael eu hasesu a'u trin cyn gynted â phosibl. Os na ellir delio â'ch cyflwr yn yr Uned Mân Anafiadau, yna cewch eich cyfeirio at eich Meddyg Teulu neu'r Adran Achosion Brys agosaf neu at wasanaeth priodol arall. Rydym yn wasanaeth galw heibio, nid oes angen apwyntiad.
Mae anafiadau'n cynnwys:
Ysbyty Penrhos Stanley
Caergybi, Ynys Môn, LL65 2QA. Rhif Ffôn: 0300 085 0022
Ysbyty Dolgellau
Dolgellau, LL40 1NT. Rhif Ffôn: 03000 850 020
Ysbyty Bryn Beryl
Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT. Rhif Ffôn: 03000 850014
Ysbyty Alltwen
Tremadog, LL49 9AQ. Rhif Ffôn: 03000 850 027
Oherwydd problemau staffio parhaus bydd MIU yn Alltwen yn aros ar gau dros nos o 8pm tan 31 Mawrth 2026. Bydd y gwasanaethau yn aros ar agor yn ystod y dydd, 8am tan 8pm. Bydd y gwasanaeth arferol 8pm tan hanner nos yn dychwelyd 1 Ebrill 2026 am 08:00am. Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro'n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn ac os gellir ailddechrau'r gwasanaethau arferol yn gynharach byddwn yn eich hysbysu.
Ysbyty Tywyn
Ffordd Bryn Hyfryd, Tywyn, LL36 9HH. Rhif Ffôn: 03000 850 026
Bydd Uned Mân Anafiadau (MIU) Tywyn yn gostwng eu horiau gwaith tan 31 Mawrth. Ar agor rhwng 8am a 4pm yn unig.
Ysbyty Cyffredinol Llandudno
Ffordd yr Ysbyty, Llandundo, Conwy, LL30 1LB. Rhif Ffôn: 03000 850 013
Ysbyty Cymuned Dinbych
Ffordd Rhuthun, Dinbych, LL16 3ES. Rhif Ffôn: 03000 850 019
Ysbyty Treffynnon
Ffordd Halkyn, Treffynnon, CH8 7TZ. Rhif Ffôn: 03000 856 739
Ysbyty Yr Wyddgrug
Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG. Rhif Ffôn: 03000 850 006