Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapydd o Ogledd Cymru yw'r Hyrwyddwr Cyhyrsgerbydol Versus Arthritis cyntaf yng Nghymru

Mae ffisiotherapydd o Ogledd Cymru wedi ymuno â chymuned elitaidd o arweinwyr clinigol newid mewn gwasanaethau iechyd cyhyrysgerbydol (MSK).

Mae Anna Doran, Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi'i phenodi'n Hyrwyddwr Cyhyrsgerbydol Versus Arthritis - yr unig un yng Nghymru.

Versus Arthritis yw elusen fwyaf y DU sy'n ymwneud yn unswydd â chynorthwyo pobl sydd ag arthritis. Yma hyd, dim ond 14 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi'u penodi fel Hyrwyddwyr Cyhyrsgerbydol er mwyn cwblhau eu cwrs arwain mawredddog yn Ysgol Fusnes Ryngwladol Hult (Ashridge). 

Roedd yn bleser gan Anna, sy'n arwain tîm o ffisiotherapyddion arbenigol clinigol cyswllt cyntaf sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, i gael ei phenodi.

Dywedodd Anna: “Rydw i'n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi gan fod y rhaglen yma'n cefnogi gwaith pwysig iawn i wella bywydau pobl y mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithio arnynt. Mae'n cefnogi pob hyrwyddwr o ran datblygu sgiliau arwain a phersbectif systemig er mwyn mynd ymlaen i sicrhau gwelliannau o ran gofal i bobl sydd â chyflyrau MSK.

“Mae fy mhrosiect gwella iechyd yn edrych ar wella a symleiddio'r llwybr cyhyrysgerbydol o ofal cychwynnol hyd at ofal eilaidd."

Mae'r rhaglen yn gweithio gyda phob unigolyn sy'n deall ei amgylchedd lleol, anghenion y boblogaeth a'r system iechyd, ac mae'n eu cynorthwyo i yrru gwelliannau yn eu blaen o ran gofal MSK mewn cyd-destun lleol a chenedlaethol.

Trwy gydol y rhaglen, mae'r hyrwyddwyr MSK yn datblygu ac yn gweithredu eu prosiect gwella gwasanaeth eu hunain wedi'i deilwra i anghenion eu hardal leol. Mae 17.8 miliwn o bobl sydd â chyflyrau MSK yn byw yn y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i versusarthritis.org.