Neidio i'r prif gynnwy

Biocemegydd o Ysbyty Gwynedd a fu bron a marw o'r ffliw yn annog eraill i gael eu brechu

Mae dynes a fu bron â marw o'r ffliw'r gaeaf diwethaf yn annog pobl i gael eu brechu rhag y salwch.

Treuliodd Avril Wayte, sy'n 64 oed bythefnos yn yr ysbyty ar ôl mynd yn sâl ddiwedd mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf.

Yn dilyn ei derbyniad cafodd ei rhoi mewn ystafell ar ei phen ei hun ar Ward Gogarth yn Ysbyty Gwynedd am bedwar diwrnod tra roedd yn cael gwrthfiotigau.

"Dechreuais deimlo'n sâl Nos Calan ac roeddwn yn cael trafferth anadlu.

"Fe es i'r Adran Achosion Brys gan feddwl bod rhywbeth mawr yn bod gyda mi, roedd gennyf wres ac roeddwn wir yn teimlo fy mod am farw.

"Cefais swab a ddangosodd canlyniad positif ar gyfer y ffliw a cefais fy rhoi mewn ystafell ar wahân yn syth.

"Roedd yn amser pryderus iawn gan y dywedodd fy meddyg ymgynghorol bod fy sgôr sepsis yn uchel iawn, a oedd yn golygu bod fy mywyd mewn perygl,"dywedodd.

Gadawodd Avril, Biocemegydd Clinigol Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd tuag at ddiwedd mis Ionawr, ond parhaodd i ffwrdd o'r gwaith am dair wythnos bellach er mwyn gwella o'r salwch.

"Yn ystod fy amser yn yr ysbyty, fe aeth fy ngŵr yn sâl hefyd a chafodd ef hefyd ddiagnosis o'r ffliw.

"Nid oedd yr un ohonom wedi ystyried y pigiad ffliw gan nad oeddem yn meddwl ei fod yn gweithio gan fod cymaint o wahanol fathau o'r ffliw.

"Mae'r hyn ddigwyddodd i mi wedi gwneud i mi ail ystyried ac eleni yw'r tro cyntaf i mi gael y pigiad y ffliw.

"Penderfyniad yr unigolyn yw p'un yw’n cael y pigiad ffliw ai peidio, ond rwy'n dweud wrth y rhai nad ydynt yn ystyried ei gael yr hyn ddigwyddodd i mi.

"Rwy'n meddwl ei bod yn ofnadwy o bwysig bod y rhai sydd mewn perygl yn cael pigiad y ffliw a hefyd i staff y GIG i amddiffyn eu hunain yn ogystal â'u cleifion," fe ychwanegodd.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol a'r ffordd orau i amddiffyn eich hun, eich teulu a'ch ffrindiau yw cael eich brechu.

Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau yn dilyn y ffliw ac yn gymwys i gael brechiad am ddim. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn o'ch meddygfa neu fferyllfa leol.

Os ydych yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau risg canlynol, mae gennych hawl i bigiad ffliw am ddim:

  • 65 oed a hŷn
  • Gofalwyr di-dâl
  • Yn feichiog (ar unrhyw gyfnod o'r beichiogrwydd)
  • 6 mis oed a hŷn ac yn dioddef o unrhyw gyflwr cronig megis asthma, problemau’r frest neu’r galon, clefyd yr arennau, diabetes, cyflwr niwrolegol neu systemau imiwnedd wedi'u hatal.  
  • Plentyn 2 i 10 oed
  • Oedolion gyda BMI o 40 neu uwch
  • Staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y brechiad ffliw drwy fynd ar https://phw.nhs.wales/services-and-teams/beat-flu