Mae staff llinell gymorth iechyd meddwl Gogledd Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed drwy ofyn i bobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl yn ystod yr argyfwng COVID-19 i ofyn am gefnogaeth.
Mae newidiadau dros dro i’r ffordd mae gwasanaethau bydwreigiaeth cymunedol yn gweithredu wedi cael eu cyflwyno fel rhan o waith y Bwrdd Iechyd i ostwng y risg o haint o’r COVID-19.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a'r GIG wedi dod at ei gilydd cyn penwythnos y Pasg i annog y cyhoedd i aros gartref ac achub bywydau a helpu i amddiffyn y GIG.
Lansiwyd Hwb Dementia yn Ysbyty Gwynedd i alluogi staff i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn ystod yr achos cyfredol o COVID-19.
Mae'r tri ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru wedi'u hailenwi ar ôl y symbol o obaith ar ffurf enfys sydd wedi dod yn gyfystyr ag ymateb y rhanbarth i achosion COVID-19.
Rhoddwyd oddeutu 700 feisor i helpu i ddiogelu staff sydd ar y rheng flaen yn ystod pandemig COVID-19 i'r Bwrdd Iechyd diolch i ymdrech enfawr gan y gymuned leol.
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fydd y trydydd lleoliad ar gyfer ysbyty dros dro i drin preswylwyr Gogledd Cymru gyda symptomau COVID-19.
Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol Bangor eu troi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sydd â symptomau COVID-19
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio gyda phractisau meddygon teulu ar draws Gogledd Cymru sy'n sefydlu Canolfannau Asesu Lleol er mwyn helpu i reoli trin cleifion sydd â symptomau COVID-19 yn y gymuned.
Venue Cymru fydd lleoliad cyntaf ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru
Mae Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd wedi derbyn rhodd o iPads i helpu cleifion aros mewn cysylltiad â'u teuluoedd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn symud ymlaen gyda’i gynlluniau i wella capasiti i ofalu am gleifion sydd â COVID-19
Mae cleifion hŷn sydd yn ynysu’n gymdeithasol oherwydd yr achosion o COVID-19 yn awr yn cael ymgynghoriadau dros y ffôn i gadw mewn cysylltiad â’u meddygon.
Mae ymweld â holl ysbytai Gogledd Cymru wedi’i wahardd er mwyn helpu i atal rhag ymledu COVID-19.
Mae staff parod eu cymwynas ar ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi trefnu ymweliadau rhithwir trwy Skype er mwyn sicrhau bod eu cleifion yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd.
Mae nyrs Gofal Critigol o Ysbyty Maelor Wrecsam a ddisgrifiwyd gan ei chydweithwyr fel 'ysbrydoliaeth' wedi derbyn gwobr arbennig.
Mae Unedau Profi Covid-19 newydd drwy ffenest y car wedi eu sefydlu mewn tri lleoliad ar draws Gogledd Cymru i gefnogi'r ymateb i fynd i’r afael â’r Coronafeirws Newydd (COVID 19).
Ar hyn o bryd, bydd yr Unedau Profi ond yn rhoi profion blaenoriaeth i weithwyr y GIG sy'n ymwneud â'r ymateb i achosion Covid-19.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau gohirio llawdriniaethau, triniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, er mwyn canolbwyntio adnoddau ar ofalu am gynnydd disgwyliedig mewn cleifion Covid-19 y mae arnynt angen gofal ysbyty. Bydd yr holl bethau hyn yn dechrau cael eu gohirio ar draws Gogledd Cymru o ddydd Iau 19 Mawrth.
Mae codi ymwybyddiaeth am fywydau iachach a hapusach wedi'i osod yn gadarn ar gwricwlwm ysgol yn Sir y Fflint diolch i brosiect dan arweiniad tîm Atal Codymau Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae dynes o Fangor a ddihangodd rhag bywyd o drais a bod yn gaeth i gyffuriau, diolch i raglen therapi a newidiodd ei bywyd, yn dweud ei bod am roi gobaith i eraill bod adferiad yn bosibl.