Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnig arweiniad ar addasiadau unigol y gallech wneud i’ch cyfrifiadur, gliniadur, dyfais glyfar neu ffôn clyfar i’w gwneud yn haws defnyddio’r wefan hon.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

  1. Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  2. Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  3. Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  4. Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws

Adborth a gwybodaeth cysylltu

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â bcu.digital@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i’r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn  10 ddiwrnod gwaith.


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â bcu.digital@wales.nhs.uk

    Gweithdrefn orfodi


    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).  Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb

    Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

    • ni allwch addasu uchder llinell na bylchiad testun
    • nid yw’r mwyafrif o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
    • nid oes is-deitlau ar ffrydiau fideo byw

     

    Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i ddarparu mynediad at ei wasanaethau a chyfraniad ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi colli synhwyrau ar yr un sail â defnyddwyr gwasanaeth eraill. 

    Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i pobol sy'n fydda, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy Relay UK.

    Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu BSL a gwasanaethau iaith eraill drwy ein contract gyda Gwasanaethau Dehongli Cymru (WITs).  Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan ein swyddfeydd a'n hardaloedd triniaeth ddolenni cynefino clywedol, os oes angen dehonglydd BSL, cysylltwch â'r adran neu'r ward cyn eich ymweliad fel ein bod yn gallu trefnu hyn i chi.  Os yw eich ymweliad heb ei drefnu neu mewn sefyllfa frys, gall ein staff drefnu naill ai dehonglydd BSL wyneb yn wyneb neu ar-lein.

    Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu dau adnodd allweddol o gymorth ychwanegol;

    Darperir Cynllun Gofal Iechyd Hygyrch ar y cyd â Chanolfan Arwyddo Golwg Sain (COSS), sy'n gallu darparu cymorth wrth wneud a newid apwyntiadau, darparu cyngor ac arweiniad a chymorth i'ch galluogi i gyfathrebu'n effeithiol gyda BIPBC, Meddygon Teulu a gwasanaethau iechyd eraill.  Gallant hefyd ddarparu Cerdyn Cyfathrebu Iechyd Hygyrch i chi sy'n eich galluogi i nodi'ch anghenion cyfathrebu yn hawdd i weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Gellir cael y rhain hefyd gan ein Hadran(nau) Awdioleg.  Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am y Cynllun Gofal Iechyd Hygyrch, cysylltwch â'r Chanolfan Arwyddo Golwg Sain (COSS) dros y ffôn ar 01492 530013 neu dros e-bost ar: info@signsightsound.org.uk.

    Patient Advice and Liaison Service (PALS) yn gweithredu ar draws pob ardal o'r Bwrdd Iechyd ac yn darparu cyngor diduedd a chefnogaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth, cymorth wrth gysylltu â staff ac adrannau ac yn darparu gwybodaeth ar sefydliadau eraill a gallant ddarparu gwybodaeth neu gyngor, yn ogystal â gwrando a dysgu o'ch adborth.  

    Gallwch gysylltu â gwasanaeth PALS o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (09:00-17:00) dros y ffôn 03000 851234 neu e-bost BCU.PALS@wales.nhs.uk.

    Am fwy o wybodaeth am y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ewch i'w gwefan neu cysylltwch â BCU.Equality@wales.nhs.uk .

    Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No.2) Accessibility Regulations 2018. 

    Cynnwys anhygyrch

    Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

     

    1. Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
    2. Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A

    Baich anghymesur

    Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

    Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd.   Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

    •  Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (mae'n bosibl y bydd yn newid)
    • Papurau Bwrdd neu bwyllgorau
    • Polisiau ac Adroddiadau Sicrwydd a Llywodraethu
    • Adroddiadau perfformiad a allai gynnwys data adrodd/ystadegol cymhleth
    • Polisïau a gweithdrefnau wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018
    • Cyhoeddiadau â dolen o’n tudalenau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu
    • Cyhoeddiadau a allai fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid eu gosod gan drydydd parti.  

    Llywio a chyrchu gwybodaeth

    • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
    • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
    • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd
    • Offer a thrafodion rhyngweithiol
    • Profwyd y map rhyngweithiol ar dudalen Eich Gwasanaethau Iechyd Lleol gan ddefnyddio llywio bysellfwrdd. Gellir cael mynediad at wybodaeth a thudalennau trwy ddewis ardal/rhan ar y map yn ogystal ag yn ôl ardal gan ddefnyddio'r rhestr acordion ar yr un dudalen.

    Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

    Dogfennau PDF a dogfennau eraill

    Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.  Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word.  Erbyn mis Ebrill 2022, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.  Mae gwiriadau hygyrchedd yn cael eu cynnal gan berchnogion y cynnwys cyn ychwanegu dogfennau Word neu PDF ar y wefan.  Bydd unrhyw ddogfennau PDF new ddogfennau Word newydd o’r natur hwn a gaiff eu uwchlwytho i’r wefan yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

    Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

    Rydym o’r farn ei bod yn faich anghymesur gosod Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol a grewyd a’u huwchlwytho o 23 Medi 2018 hyd heddiw. Mae hyn oherwydd maint y cynnwys a’r testun mewn nifer o ddogfennau y byddai angen eu gosod. Darperir cyfeiriad e-bost cyswllt ar bob tudalen we berthnasol ar gyfer y rhai sydd angen y wybodaeth hon mewn fformat hygyrch. Rydym wrthi’n cynllunio i uwchlwytho dogfennau o’r natur hon mewn fformat hygyrch erbyn chwarter cyntaf 2020/2021 pan fydd y fformat newydd ar waith.

    Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.

    Statws cydymffurfio

    Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, a restrir isod. Rhestrir y ‘diffyg cydymffurfio ac eithriadau’ isod.

    Cynnwys anhygyrch

    Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

    Fideo

    Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.   Fodd bynnag, byddwn bob amser yn cynnig yr opsiwn i droi’r is-deitlau ymlaen (gan ymgorffori fideos o Youtube) o fideos a gynhyrchwyd a recordiwyd ymlaen llaw.

    Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

    Ar hyn o bryd nid oes gennym fab hygyrchedd sy’n dangos sut a phryd yr ydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cael map erbyn mis Ebrill 2023.

    Fel Tîm Cyfathrebu Digidol bach, rydym yn bwriadu archwilio tudalennau cyfredol ar y wefan i gael gwared â chynnwys (delweddau, dogfennau, fideo) nad ydynt yn cydymffurfio gyda hygyrchedd neu eu diweddaru erbyn mis Medi 2023. 

    Penawdau

    Rydym yn bwriadu adolygu fformat yr holl dudalennau gwe a’u cynnwys erbyn mis Medi 2023 i sicrhau bod cynllun yr holl dudalennau yn hygyrch

    Paratoad o'r datganiad hygyrchedd

    Paratowyd y datganiad ar y 27 Hydref 2021.  Caiff ei adolygu a'i ddiweddaru ym mis Ebrill 2023.