Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i Staff

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd â phryder, ewch i'n tudalennau Cyngor a Chyswllt Cleifion i gael rhagor o wybodaeth.

 

Codi Llais heb Ofn 

Mae Codi Llais heb Ofn yn gynllun a fydd yn rhoi cymorth i gydweithwyr o ran tynnu sylw at bryderon a phroblemau, waeth pa mor fawr neu fach ydynt. 

Nod y cynllun yw sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel ac sy'n ddiogel yn cael ei ddarparu gan weithlu hyderus ac ymroddedig. Bydd y cynllun hwn yn caniatáu diwylliant agored a thryloyw. Bydd hyn yn arwain at amddiffyn diogelwch cleifion, gan roi gofal o ansawdd uchel y mae ein cleifion yn ei haeddu, ac yn gwella'r profiad i bawb.

Mae yna nifer o wahanol ffyrdd y gallwch chi godi pryderon:

1. Cael sgwrs am eich pryderon gyda'ch rheolwr llinell.  Neu, os yw'n well gennych, rheolwr arall yn eich gwasanaeth.

2. Ystyried y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi yn ein Polisi Parchu a Datrys newydd sy’n disodli Urddas yn y Gweithle a’n Polisïau Cwynion.

3. Siarad â chynrychiolydd Undeb Llafur neu grŵp proffesiynol cyfatebol.

4. Siarad ag un o’n Gwarcheidwaid Codi Llais heb Ofn a all eich cefnogi i symud eich pryderon ymlaen.

5. Cael rhagor o wybodaeth gan un o'n Hyrwyddwyr Codi Llais heb Ofn lleol.

6. Cofrestru i ddefnyddio Work in Confidence ar gyfer sgwrs gyfrinachol a dienw gyda Gwarcheidwad neu aelod o'r Tîm Amlddisgyblaethol Codi Llais heb Ofn.