Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

18/03/24
Byw'n Well gyda Dementia - Premiere y Ffilmiau

Mae cyfres newydd o ffilmiau sydd wedi’u cynllunio i greu gwell dealltwriaeth o ddementia wedi cael eu dangos am y tro cyntaf yn Wrecsam.

Cafodd mwy na chant o westeion ragflas unigryw o’r pum ffilm fer ‘Byw'n Well gyda Dementia’ yn Sinema’r Odeon ddydd Mercher, 13 Mawrth 2024.

14/03/24
Caewch eich llygaid am y feddyginiaeth ryfeddol nad yw'n costio dim

Pe dywedwyd wrthych fod un bilsen ddyddiol, a allai helpu i'ch amddiffyn rhag diabetes, problemau'r galon, llid, problemau iechyd meddwl a cholli cof, heb unrhyw sgîl-effeithiau, a fyddech yn ei chymryd?

Os mai 'byddwn' oedd eich ateb, yna dyma newyddion da i chi, mae'n bodoli a does dim rhaid i chi gymryd pilsen hyd yn oed. Cwsg yw’r enw arno a gallai eich amddiffyn rhag salwch ac arbed apwyntiadau di-ri, ymchwiliadau a llawer o arian i’r GIG pe byddai pob un ohonom yn cael digon ohono.

13/03/24
Ateb cydgysylltiedig i ofal cleifion yn achub bywyd goroeswr strôc

I rai, mae delio â chyrff swyddogol yn rhywbeth brawychus pan fo arnynt angen cymorth. Mae nifer sylweddol o bobl naill ai’n methu, neu ddim eisiau, ymgysylltu â nhw.

O’u gadael heb eu gwirio, gall materion cymdeithasol megis tai gwael, ynysigrwydd cymdeithasol neu bryderon ariannol arwain at broblemau iechyd a llesiant. Yn aml, wrth wynebu anawsterau o’r fath, cyswllt cyntaf unigolyn gydag unrhyw gorff swyddogol yw pan fyddant yn mynd yn sâl.

11/03/24
Gwasanaethau mamolaeth i ailddechrau cynnig genedigaethau yn y cartref ar draws Gogledd Cymru

Mae gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ailddechrau cynnig genedigaethau yn y cartref. 

07/03/24
Mae model cymorth arloesol yn helpu mwy o famau a babanod Ynys Môn i fwydo ar y fron yn hirach

Mae sesiynau a gynhelir gan brosiect unigryw Bronfwydo Môn yn cynnig cefnogaeth arbenigol i famau a’u babanod, ac maent eisoes wedi cyfrannu'n sylweddol at gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ar yr ynys.

21/02/24
Rhieni yn dwyn sylw at gyflwr prin eu mab i godi ymwybyddiaeth

Mae rhieni baban 10 mis oed yn codi ymwybyddiaeth o gyflwr prin a wnaeth orfodi eu mab i dreulio saith diwrnod mewn uned gofal dwys ar ôl cael ei eni.

20/02/24
Cynnydd y Bwrdd Iechyd

Bu newid o ran arweinyddiaeth a dull gweithredu. Mae gennym bellach sylfaen gadarn i adeiladu arni, gyda Phrif Weithredwr, Cadeirydd ac aelodau Bwrdd newydd yn eu lle sydd wedi ymrwymo i wella ein ffyrdd o weithio

20/02/24
Diagnosis cyflym gan glinig arbenigol yn tawelu ofnau canser mam i bedwar o blant

 

Mae claf a oedd yn ofni ei bod yn “ticio rhai o’r blychau ar gyfer diagnosis o ganser” wedi canmol gwaith Clinig Diagnosis Cyflym y Bwrdd Iechyd am ddarganfod beth oedd yn bod arni yn gyflym.

Mae Laura Jones o Lanelwy yn dioddef o ddiabetes Math 1. Penderfynodd ymweld â’i meddyg teulu ar ôl i’w gŵr wneud sylw ei bod wedi colli pwysau dros gyfnod o fis y llynedd.

16/02/24
Ymchwilwyr yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn cymryd rhan fel ymchwilwyr mewn treial brechu dynol cyntaf o'i fath yn y DU

Mae ymchwilwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno yn eu treial brechu dynol cyntaf yn y DU yn y frwydr yn erbyn brech y mwncïod.

15/02/24
Ymateb y Bwrdd Iechyd: Adroddiad Archwilio Cymru

Adroddiad Archwilio Cymru: Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawu Adroddiad Archwillio Cymru heddiw sy’n datgan, o gymharu â

13/02/24
Penodi Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol newydd  
07/02/24
Cyhoeddi enw ar gyfer Uned Mamau a Babanod newydd

Mae enw uned iechyd meddwl rhanbarthol newydd i Famau a Babanod wedi cael ei ddatgelu.

Dechreuodd gwaith adeiladu paratoadol yn swyddogol ym mis Tachwedd ar yr adeilad unllawr gwerth £7.5m, sef y cyntaf o'i fath ar draws Swydd Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru.

01/02/24
Mae cam ymgysylltu terfynol Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn digwydd ym mis Chwefror
30/01/24
Y Prif Weithredwr newydd yn ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gan gadarnhau ymrwymiad y Bwrdd Iechyd

Atgyfnerthodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei addewid i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFC).

29/01/24
Penodi Dyfed Edwards fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd

Mae Dyfed Edwards wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cafodd Dyfed, sydd wedi bod yn ei swydd fel Cadeirydd dros dro ers Chwefror 2023, ei benodi’n ffurfiol i’r swydd gan y Gweinidog Iechyd ddydd Mawrth, 30 Ionawr 2024. 

26/01/24
Buddsoddiad o £23m ar y cyd mewn dau gyfleuster gofal cymdeithasol newydd yn Sir y Fflint

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddau gyfleuster cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig newydd yn Sir y Fflint, gyda chymorth mwy nag £14 miliwn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd hynny gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. 

22/01/24
Mae Nyrs yn Ysbyty Gwynedd yn dathlu 45 mlynedd yn y proffesiwn

Mae uwch nyrs yn Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd 45 mlynedd yn y proffesiwn y mis hwn.

16/01/24
Fferyllfa GIG newydd yn agor yn Llanberis

Mae Fferyllfa GIG newydd wedi agor yn Llanberis, yn sicrhau bod gan bobl leol fynediad hawdd at feddyginiaethau a chyngor arbenigol unwaith eto, a hynny ar garreg eu drws.

05/01/24
Cydnabod Pump Penigamp yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin Charles

Mae pum cydweithiwr yn y Bwrdd Iechyd wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.

20/12/23
Cyngor i bobl sy'n ymweld â'n hysbytai dros gyfnod y gaeaf