Neidio i'r prif gynnwy

Camu i Waith yn helpu Nick serennu i dîm gwasanaethau ysbyty

Mae dyn o Brestatyn wedi dod yn rhan amhrisiadwy o dîm gwasanaethau Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael cefnogaeth trwy raglen dychwelyd i'r gwaith.

Mae Nick Selway, a gollodd ei fraich dde mewn damwain yn y gweithle 16 mlynedd yn ôl, yn ôl mewn gwaith ar ôl cymryd rhan yn rhaglen Camu i Waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r rhaglen Camu i Waith yn rhoi cyfleoedd i bobl sy'n wynebu heriau o ran cael mynediad at y farchnad swyddi.

Mae'r rhaglen yn rhoi lleoliadau gwaith tymor byr yn y GIG yng Ngogledd Cymru, gan gefnogi datblygiad gyrfa a chyfleoedd hyfforddi hefyd.

Cafodd Nick, 49, ei anafu ar ôl i ddalen dur syrthio arno tra'r oedd yn gweithio mewn canolfan ailgylchu 16 mlynedd yn ôl.  Er iddo osgoi anafiadau mwy difrifol drwy neidio allan o ffordd y metel a oedd yn syrthio arno, cafodd anaf difrifol i'w fraich dde a bu’n rhaid  ei thorri i ffwrdd.

Ers hynny, roedd yn cael trafferth dod o hyd i waith llawn amser, ac yn aml yn methu cael cyfweliad lle y gallai ddangos ei werth.

Ond ar ôl cael cefnogaeth gan Therapydd Galwedigaethol yn ei feddygfa, Prestatyn Iach, cafodd Nick fynediad at hyfforddiant a chyfle i ddychwelyd at gyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd fel Cynorthwyydd Domestig.

Dywedodd Nick: "Rwy'n meddwl mai un o fy ngwendidau mwyaf yw nad wyf yn hoffi gofyn am gymorth - rwyf wastad wedi teimlo fy mod yn gallu gwneud pethau fy hun a chyflawni pethau ar fy mhen fy hun.

"Roeddwn yn ddi-waith am cyn gymaint o amser nes i mi, o'r diwedd, fynd at fy Meddyg Teulu a siarad am y ffaith bod angen cefnogaeth arnaf.

"Cefais wybod gan Therapydd Galwedigaethol yno am y cyfleoedd a oedd ar gael i gael hyfforddiant a chymwysterau newydd, ac ar ôl gwneud Cwrs ILM yng Ngholeg Glannau Dyrfdwy, cefais wybod am y rhaglen Camu i Waith."

Mae Nick, sydd yn awr yn defnyddio braich prosthetig, yn awr wedi bod yn rhan o dîm gwasanaethau gwesty'r ysbyty ers dau fis. 

Mae ei waith yn cynnwys goruchwylio storfeydd Ysbyty Glan Clwyd, lle cedwir cyflenwadau ac offer meddygol yn ddiogel yn barod i'w ddefnyddio ar y wardiau ac yn y clinigau.  Mae hefyd yn gwneud dyletswyddau domestig trwy gydol yr ysbyty, gan weithio fel rhan o dîm o 120 staff sy'n helpu i fynd i’r afael â heintiau a chadw'r ysbyty yn lân.

Dywedodd Nick: "Rwyf wedi cael llawer o groeso yma, ac wir yn mwynhau fy ngwaith.  Mae'n wych teimlo fel eich bod yn cyfrannu at y gofal y mae cleifion yn ei dderbyn yn Ysbyty Glan Clwyd. 

"Yr oll oedd ei angen arnaf oedd cyfle i ddangos yr hyn a allaf ei wneud, a helpodd y rhaglen Camu i Waith i mi wneud hynny.

"Ni allaf argymell y ffordd a ddeuthum yma ddigon.  Dylai unrhyw un sydd ag amgylchiadau anodd neu sydd heb gael cyfle i gael gwaith edrych i mewn i'r hyn a wnes i, oherwydd mae cael y cyfle i ddangos yr hyn sydd gennych i'w gynnig yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd Greg Bloor, Rheolwr Gwasanaethau Gwesty ar gyfer Ardal y Canol:  "Rydym wedi ein syfrdanu gyda Nick ers iddo ymuno â ni - mae ganddo agwedd ardderchog. 

"Gwnaeth Nick argraff go iawn tra'r oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen Camu i Waith, ac nid oeddem eisiau ei golli o gwbl pan ddaeth ei leoliad gwaith i ben.

"Mae'n enghraifft wych o sut all Camu i Waith roi cyfleoedd i bobl ddangos eu doniau a phwy ydynt, ac yn helpu cyflogwyr i edrych y tu hwnt i’r CV."