Neidio i'r prif gynnwy

CAMHS

Gogledd Cymru yw’r lle gorau am weithwyr CAMHS proffesiynol. Mae tîm CAMHS Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain y ffordd o ran arloesi.

Mae gennym gyfoeth o gyfleoedd yn ein gwasanaethau ar gyfer Nyrsys Iechyd Meddwl Cofrestredig, Ymarferwyr Iechyd Meddwl, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Seicolegwyr, Uwch Ymarferwyr Nyrsio a HCAs i ymuno â ni. Pan fyddwch yn ymuno â’r tîm yn PBC, gallwch sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith – gyda chyfoeth o gyfleoedd datblygu gyrfaol a byw mewn ardal hardd lle gallwch fwynhau bywyd i’r eithaf.

Yn PBC, mae gennym bum tîm CAMHS arbenigol sy’n gweithio ar draws Gogledd Cymru a chaiff ein gwasanaeth ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc. Fel gwasanaeth integredig, mae gennym ystod eang o swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Cleifion Mewnol
  • Timau dwys triniaeth yn y cartref
  • Argyfwng a chyswllt yn yr ysbyty
  • Ymyrraeth ac ataliaeth gynnar
  • Gwasanaethau meddygon teulu
  • Gwasanaethau yn yr ysgol
  • Anhwylderau bwyta  
  • Gwasanaethau asesu a therapi CAMHS craidd. 

Rydym yn cynnig ystod gyfoethog o therapïau a daw hyn gyda chyfleoedd i unigolion o ystod eang o broffesiynau. Waeth a ydych yn awyddus i ddilyn llwybr hyfforddiant therapiwtig mewn therapi teuluol, CBT, therapi dilechdidol, seicotherapi neu ganolbwyntio ar lwybr ar sail proffesiynau – gallwn eich helpu i lunio eich gyrfa.