Neidio i'r prif gynnwy

Codwyr arian o Wrecsam yn rhoi hwb i wasanaethau canser y brostad

Mae mwy na £4,000 wedi'u codi mewn digwyddiad elusennol yn ddiweddar yng Nghlwb Golff Wrecsam tuag at brynu peiriant cryotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dewisodd y clwb golff Grŵp Cymorth Canser y Brostad Wrecsam fel yr elusen o'u dewis ar gyfer 2019/20 a bydd y rhodd ddiweddaraf hon yn helpu i brynu'r offer newydd, a gaiff ei ddefnyddio i drin canser y brostad.

Gwnaeth nifer o fusnesau lleol gefnogi'r digwyddiad trwy naill ai noddi tyllau, gwobrau neu raglen y digwyddiad, a ychwanegodd at y swm a godwyd trwy ffioedd rhoi cynnig ar y gystadleuaeth a rhoddion unigol a chorfforaethol.

Codwyd cyfanswm o £4,059 ar y diwrnod.