Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i Ni

P'un a ydych wedi gweithio gyda'r GIG ar hyd eich oes, neu wedi cael y camargraff bod angen gradd arnoch i ystyried gwneud hynny hyd yn oed, gall GIG Gogledd Cymru gynnig gyrfa werth chweil i chi. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi gwag ar draws ystod o alwedigaethau.

Rydym yn darparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty llym ar draws 3 ysbyty dosbarth, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, lleoliadau tîm iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl.  Mae BIPBC hefyd yn cydlynu gwaith 113 meddygfa a gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws y rhanbarth.

Ein nod yw galluogi pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, yn ôl dewis personol ac annog defnyddwyr a darparwyr eraill i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg yn y sector iechyd. Am fwy o wybodaeth am hyfforddiant yr iaith Gymraeg wrth weithio i'r Bwrdd Iechyd.

Cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod i gael gwybodaeth am gyfleoedd prentisiaeth:  BCU.ApprenticeOpportunities@wales.nhs.uk

Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Mae Hyderus o ran Anabledd yn ehangu ac yn dyfnhau ein hymrwymiad presennol fel cyflogwr ac, yn BIPBC, rydym yn ymrwymedig i'r camau gweithredu canlynol:

  • mynd ati'n rhagweithiol i ddenu pobl anabl a'u recriwtio
  • darparu proses recriwtio cwbl gynhwysol a hygyrch
  • cynnig cyfweliadau i bobl anabl sy'n bodloni meini prawf y swydd
  • bod yn hyblyg wrth asesu pobl fel bod ymgeiswyr swyddi anabl yn cael y cyfle gorau i ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith
  • gwneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen
  • annog ein cyflenwyr a'n partneriaid i fod yn Hyderus o Ran Anabledd
  • sicrhau bod gan weithwyr ymwybyddiaeth ddigonol o gydraddoldeb i bobl anabl
  • hybu diwylliant o fod yn Hyderus o ran Anabledd
  • cefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau neu gyflyrau iechyd
  • sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i ddatblygiad a dilyniant staff anabl