Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am eich cluniau dros y Gaeaf

Mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ar ôl torri eu cluniau ar draws Gogledd Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae torri clun yn anaf difrifol sy'n digwydd ymhlith pobl oedrannus a bregus ar ôl syrthio yn y cartref yn bennaf.

Gyda disgwyl cynnydd yn y nifer sy'n torri'u clun dros fisoedd y gaeaf mae'r tîm Orthopedig ac Atal Codymau yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn annog pobl i wneud newidiadau syml i geisio osgoi'r math hwn o anaf.

Dywedodd Mr Ibrahim Malek, Llawfeddyg Trawma ac Ymgynghorydd Orthopedig:  "Fel yr ydym yn camu i mewn i gyfnod yr ŵyl, byddem yn annog ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru i gadw llygaid ar eu cymdogion a'u perthnasoedd oedrannus yn ystod tywydd y gaeaf.

"Mae hwn yn amser da i feddwl am sut mae'r tywydd gwael yn effeithio ar eich ffrindiau a'ch teulu, yn enwedig os ydyn nhw'n hŷn ac â chyflyrau iechyd cyfredol.

"Mae pobl oedrannus yn fwy tebygol o ddioddef o effeithiau gwael y tywydd oer sy'n gallu arwain iddynt syrthio.

“Mae syrthio’n gyffredin iawn ymysg pobl oedrannus, yn enwedig ymhlith pobl 80 mlwydd oed a hŷn, a allai fod â phroblemau â'u golwg, symudedd a'u cydbwysedd.

"Rydym yn gweld cynnydd yn y nifer sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn ystod misoedd y gaeaf gydag anafiadau dinistriol a gyda'r mwyafrif o'r cleifion angen triniaeth heriol ofnadwy.

“Yn anffodus, ni fydd cryn dipyn o’r cleifion hyn yn gallu dychwelyd i’w lefel gweithgaredd cyn yr anaf ac mae hyn yn peri perygl y bydd y claf yn colli ei annibyniaeth.

"Mae'n gwneud synnwyr i geisio atal yr anaf hwn rhag digwydd yn y lle cyntaf ac mae newidiadau syml personol yn y cartref yn gallu cael eu gwneud i leihau'r perygl o syrthio sy'n achosi'r anafiadau hyn."

Gallwch leihau'r risg o syrthio drwy: 

Paratoi eich Cartref

·    Goleuadau da y tu allan i'ch tŷ a chlirio'r dail gwlyb a sych

·    Cadwch eich tŷ'n rhydd o annibendod 

·    Sicrhau nad oes annibendod ar y grisiau a bod y rheiliau'n gadarn.

·    Peidiwch â gadael gwifrau a cheblau ar y llawr.

·    Cael gwared o fatiau neu eitemau y gallwch lithro arnynt. 

·    Glanhau unrhyw hylif sydd wedi gollwng ar y llawr cyn gynted â phosib. 

·    Sicrhau bod gennych fatiau llawr a bath sy'n atal i chi lithro yn eich ystafelloedd ymolchi a thoiledau.

·    Gosod rheiliau yn y gawod, ystafelloedd ymolchi a thoiledau.

·    Golau da yn yr ystafell wely yn y nos.

 

Gofalwch amdanoch eich hun

·    Cynnal diet iach

·    Gwneud ymarfer corff ysgafn i gynnal pŵer a thôn cyhyrau

·    Asesu eich llygaid a'ch sbectol yn rheolaidd

·    Os ydych yn cael trafferth â'ch cydbwysedd, ewch i weld eich Meddyg Teulu

Cynllunio eich gweithgareddau a'ch dillad

·    Gwisgo sgidiau sy'n eich ffitio'n dda ac sydd ddim yn llithro

·    Gwisgo dillad cynnes sy'n eich ffitio'n dda os ydych yn mynd y tu allan a defnyddio ffon gerdded os yw'n wlyb a gwyntog.

·    Cadwch mewn cysylltiad â'ch teulu a'ch ffrindiau

·    Cael mynediad at ffôn symudol

Mae Osteoporosis, sy'n effeithio dynion a merched, yn achosi 300,000 o anafiadau gwanychol yn y DU bob blwyddyn.  Mae'n datblygu'n araf dros sawl blwyddyn ac yn aml ddim ond pan fydd syrthio neu effaith sydyn yn achosi i asgwrn dorri y mae'n cael ei ddiagnosio.

Dywedodd Jane Evans, Ymarferydd Nyrsio Cyswllt Trawma yn Ysbyty Maelor Wrecsam:  "Mae colli asgwrn yn rhan arferol o fynd yn hŷn, ond mae rhai'n colli asgwrn yn gynt na'r arfer.  Mae hyn yn gallu arwain at osteoporosis a chynnydd yn y risg o dorri esgyrn. 

"Mae merched hefyd yn colli asgwrn yn sydyn o fewn y blynyddoedd cyntaf ar ôl menopos ac yn fwy tebygol o ddioddef o osteoporosis na dynion. 

"Os ydych mewn perygl o ddatblygu osteoporosis, dylech gymryd camau i gadw eich esgyrn yn iach. 

"Gwneud ymarfer corff rheolaidd sydd am gadw eich esgyrn mor gryf â phosib, bwyta bwydydd sydd â llawer o galsiwm a fitamin D ynddynt a gall gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw megis rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau faint o alcohol yr ydych yn ei yfed leihau'r peryglon o ddatblygu'r cyflyrau. 

"Os ydy eich meddyg yn rhagdybio bod gennych osteoporosis, efallai y bydd yn eich cyfeirio ar gyfer sgan dwysedd esgyrn i fesur cryfder eich asgwrn ac os ydych yn cael diagnosis o'r cyflwr, bydd cynllun triniaeth ar gael i chi. 

"Os ydych yn cael diagnosis o osteoporosis, mae ychydig o gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r perygl o syrthio, megis cael gwared o eitemau perygl o'ch cartref a chael profion llygaid a chlyw yn rheolaidd."

Mae un o bob tri o bobl sy'n hŷn na 65 mlwydd oed yn syrthio pob blwyddyn, ac mae'r ffigwr yn codi i un o bob dau unigolyn sydd dros 80 mlwydd oed. 

Dywedodd Jo Davies, Arweinydd Cymuned Codymau  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Nid yw pob achos o syrthio’n cael ei gofnodi ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn oherwydd bod pobl ofn y bydd reportio'r anafiadau'n arwain at golli eu hannibyniaeth a'u gallu i aros yn eu cartrefi. 

"Nod ein Tîm Atal Codymau yw cefnogi'r rheiny dros 65 mlwydd oed i adnabod peryglon syrthio fel bod ymyriadau hawdd yn gallu cael eu teilwra i bob unigolyn. 

"Mae'n bwysig ein bod yn cynyddu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r buddion o fynd yn hŷn yn dda ymysg y boblogaeth ifanc ac felly'n gallu helpu i annog lles corfforol a meddyliol ar y cyfle cyntaf posib."