Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Seren Betsi annisgwyl i Nyrs y Newydd-anedig sy'n helpu teuluoedd i gymryd rôl weithredol yng ngofal eu babi

Mae Nyrs ymroddedig o Ysbyty Glan Clwyd gyda dull arloesol o gynnwys teuluoedd yng ngofal eu babanod sâl neu newydd-anedig wedi ennill gwobr gofal iechyd.

Mae Nyrs Staff Uwch, Angela Hannah, wedi ennill Gwobr Seren Betsi am ei gwaith yn cyflwyno model newydd o ofal i'r uned sy'n gymorth i deuluoedd chwarae rôl fwy gweithredol mewn gofal. 

Mae Gofal Integredig Teulu (FIC) yn cynnwys darparu hyfforddiant ychwanegol a chefnogaeth i deuluoedd i'w helpu i gymryd rhan yn y gofal sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan staff nyrsio'r uned.  Mae hyn yn cynnwys helpu rhieni i chwarae rôl weithredol gyda dull bwydo nasogastrig, newid clytiau, ymolchi, a rhoi meddyginiaethau drwy'r geg. 

Mae'r gwaith wedi helpu teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'u plant ar yr uned, a chymryd rôl weithredol yn y gofal maent yn ei ddarparu.

Cafodd Angela ei henwebu am y wobr gan ei chyn-gydweithwraig, Caren Radcliffe, a ddywedodd: "Mae Angela'n cynrychioli holl egwyddorion y Bwrdd Iechyd, yn enwedig rhoi cleifion yn gyntaf, cyd-weithio, dysgu ac arloesi.

"Yn aml, mae rhieni'n disgrifio'r teimlad o golli rheolaeth neu fod eu babi'n perthyn i staff y newydd-anedig ac nid iddyn nhw.  Gall hyn arwain at anhawster wrth adeiladu perthynas gadarnhaol gyda'i babi, a all fod yn hirhoedlog.

"Mae'r gwaith mae Angela wedi ei gyflawni wrth gyflwyno'r model FIC wedi newid y ffordd mae ein nyrsys ni'n darparu gofal.

"Mae'r tîm wedi newid o chwarae rôl draddodiadol o fod yn ofalwyr cychwynnol i fabanod, i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach sy'n cynnwys teulu'r babi."

"Mae Angela'n nyrs mor frwdfrydig ac rydyn ni'n falch iawn o'i llwyddiant.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lwcus i'w chael hi'n rhan o'r gweithlu."

Derbyniodd Angela'r wobr fel rhan o ymweliad annisgwyl Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd y Bwrdd Iechyd, Adrian Thomas, â'r Uned.

Dywedodd Angela: "Mae'n sioc fawr i ennill y wobr hon.  Ni fyddwn i wedi cyflawni hyn heb weddill y tîm yma ar yr uned, mae fy nghydweithwyr yma'n hollol wych ”

"Mae Gofal Integredig Teulu'n gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd babanod sâl ar draws Gogledd Cymru, ac mae'n fraint i fod wedi gallu arwain ar y darn hwn o waith."

Dywedodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd:  “Mae cael babi ar Uned y Newydd-anedig yn gallu bod yn straen fawr i rieni ac mae'n aml yn cael effaith ar iechyd corfforol, seicolegol ac emosiynol y rhieni a'u babi yn hir dymor.

"Mae Angela wedi cyflwyno model sy'n canolbwyntio ar y babi a'r rhieni, hybu rhyngweithiad rhieni-babi i helpu i feithrin mwy o berthnasau cadarnhaol.

"Mae'n amlwg o ymateb cydweithwyr Angela iddi fod ei hymdrechion wrth gyflwyno Gofal Integredig Teulu yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr."

Gall staff y GIG ar draws Gogledd Cymru enwebu cydweithwyr sydd wedi mynd gam ymhellach er mwyn cyfrannu at wasanaethau iechyd am wobr Seren Betsi. Mae enillwyr y gwobrau'n cael eu dewis gan banel o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda'r enillydd yn cael ei ddewis bob mis ar gyfer cyflwyniad annisgwyl yn eu gweithle.