Mae PALS yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddatrys unrhyw anawsterau neu bryderon sy'n deillio o ddefnyddio ein gwasanaethau. Gall y tîm gynorthwyo pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau, gan gynnwys cleifion mewnol ac allanol, gofalwyr a theuluoedd.
Gall PALS eich helpu i gael y wybodaeth a'r cymorth y bydd arnoch eu hangen o ran eich gofal a'ch triniaeth.
Gallwch sgwrsio ag un o Swyddogion PALS a all gynnig cyngor a chymorth yn gyfrinachol i gleifion, gofalwyr a theuluoedd.
Mae ein tîm PALS yn gweithio gyda chleifion a staff i wella ein gwasanaeth trwy:
Beth i'w wneud os bydd gennych chi bryderon...
Yn gyntaf, mynegwch eich pryderon 'yn lleol' trwy hysbysu'r ward (trwy law Rheolwr Nyrsio'r Ward) neu'r gwasanaeth oherwydd bydd hyn yn aml yn sicrhau ateb prydlon a derbyniol. Gallwn eich sicrhau na wnaiff hyn effeithio o gwbl ar eich gofal neu eich triniaeth. Os byddwch yn credu na fydd y broblem wedi'i datrys, cysylltwch â PALS ar 03000 851234 neu gallwch anfon e-bost atom i BCU.PALS@wales.nhs.uk
Ein horiau gwaith yw:
GWYBODAETH Y BYDD ANGEN I NI EI CHAEL GENNYCH CHI PAN FYDDWCH YN CYSYLLTU Â NI ….
CYDSYNIAD Y CLAF - Os ydych chi'n ymholi ar ran claf, bydd angen i ni gael eu cydsyniad i allu rhannu'r wybodaeth amdanynt â chi. Os na allwch ddarparu cydsyniad, rhowch wybod i ni pam a byddwn yn gwneud penderfyniad i ganfod a ellir bwrw ymlaen â'r ymholiad.
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19, ewch i’n tudalen Wybodaeth am Frechlynnau COVID-19 am wybodaeth leol gyfredol am y brechu a’r diweddaraf ar gymhwyster brechu neu e-bost BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.