Neidio i'r prif gynnwy

Agorwyd Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn swyddogol gan y Gweinidog dros Iechyd

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'r prosiect gwerth £13.89m, a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi trawsnewid yr adran dros y ddwy flynedd diwethaf, sy'n gweld oddeutu 54,000 o bobl y flwyddyn. 

Cyfarfû Mr Gething â staff a sicrhaodd fod yr adran yn gweithio yn ôl ei harfer, 24 awr y diwrnod, tra roedd y datblygiad yn mynd rhagddo.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  "Rwy'n falch iawn o gael agor yr Adran Achosion Brys newydd yn Ysbyty Gwynedd yn swyddogol. Bydd yr adran newydd yn trin cleifion yn fwy effeithiol ac effeithlon

Bydd y cyfleuster newydd yn rhoi profiad ac amgylchedd gwell i gleifion a staff.  Rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi parhau i weithredu gwasanaeth 24 awr tra roedd y gwaith hanfodol hwn ar y gweill."

Dywedodd Dr Rob Perry, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys: "Rwyf yn falch iawn o'r adran newydd a'n staff ymroddedig.

"Roedd yr hen adran yn rhy fach ac wedi'i chynllunio i weld uchafswm o oddeutu 12,000 o gleifion y flwyddyn.

"Erbyn hyn, mae gennym gyfleuster modern newydd sy'n golygu bod cleifion yn elwa ar amgylchedd mwy lliwgar ac eang ac mae ein staff yn ei chael yn haws darparu gofal o ansawdd uchel."

Mae ail adeiladu'r Adran Achosion Brys wedi darparu'r buddion canlynol i gleifion:

·Ardal glinigol newydd sy'n cynnwys Uned Arsylwi'r Adran Achosion Brys (EDOU) - ardal i gleifion sydd angen eu harsylwi am lai na 24 awr ac nid ydynt angen gwely yn rhywle arall yn yr ysbyty.

·Ardal Asesu Addas i Eistedd - man pwrpasol i gleifion aros am ganlyniadau profion a chanlyniadau gwaed.

·Ardal pwrpasol ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymuned (sy'n cynnwys Ffisiotherapydd, Nyrs Rhyddhau, Therapydd Galwedigaethol a Gweithiwr Cymdeithasol i helpu ryddhau cleifion), y Groes Goch a gwirfoddolwyr MI FEDRAF.

·Ystafell Perthnasau

·Mae'r staff hefyd wedi elwa ar ardal weinyddol newydd sy'n darparu llety, ystafelloedd newid, ystafell hyfforddiant, ystafell gyfarfod amlddisgyblaethol, llyfrgell ac ystafell i gadw dogfennau.

 

Yr wythnos hon, gwelwyd hefyd lansiad Gwasanaeth Cymorth y Groes Goch yn yr adran, a fydd yn darparu Gwasanaeth Lles a Chartref yr Adran Achosion Brys. Bydd y gwasanaeth yn weithredol rhwng 11am-9pm, saith niwrnod yr wythnos.

Dywedodd Karen Cross, Rheolwr Gweithrediadau Byw'n Annibynnol gyda'r Groes Goch: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers mis Rhagfyr 2018, gan ddarparu'r gwasanaeth hwn yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu lansio'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd, yn yr Adran Achosion Brys ar ei newydd wedd.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda staff y GIG i flaenoriaethu anghenion y claf. Mae staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn yr Adran Achosion Brys i gynnig sicrwydd a chefnogaeth i gleifion a'u perthnasau. Ond yn bwysicach, mae gennym amser i dreulio gyda phobl, gwrando ar eu pryderon, eu helpu i gael mynediad at gymorth drwy eu cyfeirio at wasanaethau. Mae hyn yn cefnogi staff y GIG sy'n gallu canolbwyntio ar anghenion clinigol y claf.

"Ar ôl i'r claf gael ei ryddhau, byddwn yn mynd â nhw adref ac yn eu helpu i setlo drwy droi'r gwres ymlaen, gwneud paned o de a sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel. Rydym hyd yn oed wedi rhoi bwyd i'r gath neu mynd â'r ci am dro wrth sicrhau bod y claf wedi setlo yn y cartref."