Neidio i'r prif gynnwy

Addysgu disgyblion o Gaernarfon am ffonio 999

Mae aelod o dîm theatr Ysbyty Gwynedd yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall pa beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn ffonio 999 a sut i ddefnyddio'r gwasanaeth brys yn gyfrifol.

Gwnaeth Petula Rees, Ymarferydd o'r Adran Lawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd, ymweld yn ddiweddar ag Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon er mwyn addysgu plant pa bryd i ffonio am gymorth brys a beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn gwneud hynny.

Gwnaeth Petula benderfynu estyn allan i blant o amgylch y gwasanaeth brys yn dilyn profiad a gafodd yn yr Adran Achosion Brys.

Dywedodd: “Daeth dynes i mewn gydag anaf difrifol iawn i'r pen a dywedodd pe na bai ei phlentyn wedi ffonio 999, mae'n bosibl na fyddai wedi bod gyda ni heddiw.

“Arweiniodd hyn i mi feddwl pa mor hollbwysig ydyw i blant wybod pa bryd mae angen iddynt ffonio 999."

Yn ddiweddar, gwnaeth Petula dreulio diwrnod gyda disgyblion o Ysgol yr Hendre gan greu amryw o senarios yn ymwneud â pha bryd y byddai angen iddynt ffonio 999.

“Cafodd y plant eu difyrru'n fawr gan y sesiynau ac roeddent yn gofyn llawer o gwestiynau.

“Gwnaethant gymryd rhan mewn senarios gwahanol a oedd yn cynnwys digwyddiadau'n ymwneud â pha bryd y byddai angen iddynt ffonio am ambiwlans.

“Roedd hefyd yn bwysig eu haddysgu pa bryd nad oedd yn briodol ffonio ambiwlans a phwysleisiais hefyd effaith gwneud galwadau ffug i'r gwasanaethau brys.

“Hefyd, esboniais hefyd beth fyddai'r gweithredwr ar yr alwad 999 yn ei ofyn pan fyddent yn ffonio ac roedd yn bwysig eu bod yn gwybod yr atebion sylfaenol, fel eu cyfeiriad.

“Bu'r diwrnod yn hynod lwyddiannus ac rydw i'n gobeithio mynd i ysgolion eraill yn yr ardal nawr," ychwanegodd Petula.

Dywedodd Jonathan Sweet, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Ngogledd Cymru:

“Mae pob eiliad mewn achos brys yn cyfrif.

“Yn ogystal â rhoi ychydig o gymorth cyntaf sylfaenol, y peth gorau y gall pobl o amgylch claf ei wneud yw ffonio 999, ac mae hynny'n cynnwys plant hefyd.
 

“Mae ffonio 999 yn ddigwyddiad eithaf brawychus i unrhyw un, heb sôn am blentyn, a dyna pam mae mor bwysig eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl.

“Mae hefyd yn bwysig eu bod yn deall beth yw galw amhriodol neu alwad ffug.

“Fel gwasanaeth ambiwlans, rydym yn gwneud llawer o waith gyda phlant ysgol am sut i weithredu mewn achos brys ac rydym yn canmol Petula am ein helpu i ledu'r gair."