Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddol

Diweddarwyd - Mehefin 2023

Mae mynediad at wasanaethau deintyddol wedi newid fel rhan o raglen genedlaethol GIG Cymru i sicrhau bod gofal deintyddol yn hygyrch i bawb yng Nghymru:

- Mae'n ofynnol i bractisau deintyddol y GIG ar draws gogledd Cymru flaenoriaethu mynediad cleifion at ofal a thriniaeth ddeintyddol ar sail angen clinigol a risg.
- Mae mynediad cleifion at wasanaethau deintyddol arferol a thriniaeth nad yw'n frys yn parhau i fod yn gyfyngedig.
- Pan fydd apwyntiadau gwirio ar gael, bydd eich deintydd yn cysylltu â chi.
- Nid oes 'cofrestriad claf' bellach a gall cleifion geisio triniaeth mewn unrhyw bractis GIG. Dewch o hyd i ddeintyddfa sy'n gyfleus i chi, p'un a yw'n agos at eich cartref neu'ch gwaith a ffoniwch nhw i weld a oes unrhyw apwyntiadau ar gael.
- Ni fydd gan ddeintyddfeydd y gallu bob amser i dderbyn cleifion GIG newydd. Efallai y bydd yn rhaid i chi ymuno â rhestr aros neu chwilio am ddeintydd gwahanol sy'n cymryd cleifion GIG newydd ymlaen.

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth o'r sefyllfa gyfredol.

Dylech gysylltu â'ch deintydd yn ystod ei oriau agor arferol os oes angen gofal deintyddol brys arnoch. Mae gwybodaeth am bwy y dylech gysylltu â nhw y tu allan i oriau arferol neu os nad oes gennych ddeintydd, i'w chael o dan ein Gwasanaethau Deintyddol Brys.