Neidio i'r prif gynnwy

Dywedwch eich barn wrthym

P'un ai eich bod yn glaf, perthynas, gofalwr neu'n ymwelydd yn un o'n hysbytai, dywedwch eich barn wrthym i'n helpu i wella ein gwasanaethau.

Os ydych wedi defnyddio un o'n gwasanaethau'n ddiweddar a gydag ymholiad, sylw, pryder neu ganmoliaeth am eich profiad, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod a bydd ein Tîm Cyngor a Chyswllt i Gleifion yn cysylltu â chi. 

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19, ewch i’n tudalen Wybodaeth am Frechlynnau COVID-19 am wybodaeth leol gyfredol am y brechu a’r diweddaraf ar gymhwyster brechu neu e-bost BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

 
Cwblhewch arolwg adborth yn ystod eich ymweliad i’r ysbyty

Yn yr ysbyty cymerwch ychydig o funudau i ddweud wrthym am eich profiadau ac am ansawdd y gwasanaeth a gawsoch drwy gwblhau un o'n harolygon adborth.  Rydym yn defnyddio adborth cleifion 'amser go iawn' sy'n golygu y gallwch gwblhau'r arolwg tra'r ydych yn dal dan ein gofal.  Os bydd angen cymorth arnoch i ddod o hyd i arolwg, gofynnwch i aelod o staff.   Mae'r holl adborth yn ddienw ac yn cael ei rannu gyda'n timau ysbyty i helpu i ddarparu gofal parhaus o ansawdd i'n cleifion.

Arolwg Profiad Cleifion a Gofalwyr (Cymraeg)

Siaradwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS) yma i wrando arnoch.  

Gwneud cwyn 

Mae'n well os allwch rannu eich pryder ar y pryd drwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff.  Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS). Os ydych yn dal yn anhapus gallwch wneud cwyn ffurfiol.

Gwasanaeth Iechyd Hygyrch

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Hygyrch ar gael i gefnog defnyddwyr gwasanaeth byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL).

Manylion cyswllt
Ffôn: 07799533547
E-bost: accessiblehealth@signsightsound.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion lle byddwch hefyd yn dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf a newyddion gan y tîm Profiad Cleifion.