Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymestyn y gwasanaeth Parcio a Theithio yn Ysbyty Glan Clwyd am 12 mis ychwanegol wrth i gynlluniau ar gyfer gwelliannau hir dymor i’r ddarpariaeth parcio yn yr ysbyty gael eu datblygu.
Mae tair Uned Profi Cymunedol (CTU) wedi cael eu sefydlu yng Ngogledd Cymru i gefnogi’r ymateb i fynd i’r afael â Coronavirus Newydd (COVID 19). Bydd yr unedau gyrru i mewn yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fodloni’r galw am brofion dros yr wythnosau nesaf.
Mae gweithredwr switsfwrdd a feddyliodd yn gyflym a helpu galwr i gael mynediad at ofal a chymorth pan oedd ei angen arno fwyaf wedi cael canmoliaeth ar ffurf gwobr arbennig y Bwrdd Iechyd.
Mae Therapydd Iaith a Lleferydd sydd wedi mynd gam ymhellach ar gyfer un o'i chleifion yn HMP Berwyn wedi cael gwobr arbennig.
Mae cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn ôl ar ei draed ac wedi dod yn ôl ar ôl bod yn hyfforddi cwrs arweinyddiaeth mynyddoedd yn India yn dilyn cael llawdriniaeth i'w glun a newidiodd ei fywyd y llynedd.
Mae clinig dysffagia un stop yn Ysbyty Gwynedd yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon i gleifion, gan roi diagnosis yn gynt a'r amseroedd aros lleiaf posibl ar gyfer apwyntiadau.
Mae dynes o Fôn a brofodd drasiedi colli plentyn oherwydd hunanladdiad wedi ysgrifennu llyfr er mwyn helpu eraill trwy eu gofid.
Mae rhieni a phlant yn cael eu rhybuddio am beryglon jôc cyfryngau cymdeithasol sy'n arwain at anafiadau difrifol i blant a phobl ifanc.
Mae uwch nyrs o Ogledd Cymru yn annog mwy o bobl i ystyried gyrfa 'wobrwyol iawn' mewn nyrsio iechyd meddwl.
Mae staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r elusen 2 Wish Upon a Star i agor ystafell deulu newydd ar gyfer rhieni mewn profedigaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod y cyflogwr iechyd yng Nghymru â'r safle uchaf unwaith eto gan Stonewall, sef yr elusen gydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ei rhestr o'r 100 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer 2020.
Anogir pobl i gymryd camau syml i helpu i atal lledaenu clefydau marwol posibl ar draws Gogledd Cymru.
Mae technoleg o'r radd flaenaf er mwyn canfod abnormaleddau yn y coluddyn bach ar gael erbyn hyn i gleifion yng Ngogledd Cymru.
Bydd canolfannau galw heibio'n ei gwneud hi'n haws i bobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych gael mynediad at gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles
Mae Nyrsys sy'n gweithio ar ddwy ward llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd yn gobeithio ysbrydoli eraill i'r alwedigaeth drwy raglen ddogfen newydd.
Mae dietegwyr a staff arlwyo yn rhannu prydau bwyd sy'n hawdd eu gwneud, yn iach ac yn fforddiadwy gyda staff Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r cydweithwyr coginio yn cydweithio i helpu staff y GIG i gasglu arferion bwyta iach drwy'r fenter Bwyd Iach, Staff Iach.
Mae dwy nyrs sy'n gofalu am gleifion difrifol wael Ysbyty Gwynedd yn ymddangos ar raglen ddogfen newydd.
Mae tad a roddodd ei aren er mwyn achub bywyd ei ferch ifanc yn annog yr holl deuluoedd i siarad am roi organau.
Mae uwch nyrs yng Ngogledd Cymru yn annog pobl sydd â pherygl o anawsterau anadlu i gymryd gofal ac aros yn iach dros y misoedd nesaf. Anogodd Dr Angela Roberts, Nyrs Arweiniol Gofal Cychwynnol (Ardal y Canol) i bobl sy'n byw â chyflyrau resbiradol megis COPD neu asthma ddilyn cyngor meddygol i leihau'r risg o fod yn sâl dros y gaeaf.
Mae arbenigwyr y Galon yn gwahodd plant ysgol Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn helfa drysor all achub bywyd. Mae Julie Starling, nyrs Arrhythmia a Tomos Hughes, swyddog cefnogi Diffibrilwyr Cymuned Mynediad Cyhoeddus Gogledd Cymru eisiau i wylwyr roi gwybod os ydynt yn gweld diffibrilwyr cyhoeddus heb sticer wyrdd nodedig arno.