Oherwydd yr heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yr ydym oll yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafirws (COVID-19), gofynnwn, gyda phob parch, os nad yw eich cais am wybodaeth yn fater brys, eich bod yn ystyried a all eich cais am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu Gais Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data gael ei oedi.
Rydym yn dal i ymrwymo i ymateb i geisiadau am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl, ond efallai y bydd rhywfaint o oedi wrth ymateb i'ch cais o fewn yr amserlen statudol oherwydd ymatebion gweithredol brys yn ymdrin â blaenoriaethau COVID-19.
Mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi. Os yw ein hymateb i'ch cais yn torri'r amserlen statudol, ac rydych yn dal yn anhapus gyda'n hymateb, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch gysylltu â nhw ar:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
wales@ico.org.uk
www.ico.org.uk
twitter.com/iconews
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn fwy agored. Pwrpas y Ddeddf yw sicrhau bod pob rhan o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau ei bod hi'n haws cael gafael ar ragor o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn cydnabod bod gan y cyhoedd hawl i wybod mae gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn cael eu trefnu a'u rhoi ar waith. Mae ganddyn nhw'r hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y safonau gwasanaethau a ddisgwylir, y targedau sy’n cael eu gosod a’r canlyniadau a gyflawnir, ynghyd â faint mae’n ei gostio i ddarparu’r gwasanaethau mae’n eu cynnig.
I helpu’r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth o’r fath ac i gydymffurfio â’r Ddeddf, mae’r Bwrdd Iechyd wedi llunio Cynllun Cyhoeddi. Mae hwn yn ganllaw cyflawn i’r wybodaeth mae’r Bwrdd Iechyd yn ei chyhoeddi’n arferol, i gydymffurfio â'r Cynllun Cyhoeddi Model a baratowyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith. Gall:
I gael gwybodaeth am sut mae gwneud cais am gopïau o gofnodion meddygol cliciwch yma.
Cwynion
Os nad ydych yn hapus â’r modd y trafodwyd eich cais gan y Bwrdd Iechyd, mae gennych hawl i gwyno trwy Gysylltu â Ni.
Bydd pob cwyn yn cael ei thrafod yn unol â ‘Pholisi Cwynion Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol' y Bwrdd Iechyd. Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i'ch cwyn, mae gennych yr hawl wedyn i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi paratoi Cofrestr Datgeliadau i helpu'r cyhoedd, sy'n amlinellu'n gryno'r ceisiadau blaenorol a dderbyniwyd gan y sefydliad, ynghyd â'r ymatebion perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Mae hyn yn galluogi'r cyhoeddi i weld y mathau o geisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno a'r wybodaeth a gafodd ei rhoi mewn ymateb i'r ceisiadau hyn.
Mae manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a'r ymatebion cysylltiedig ar gael isod:
Mae BIPBC yn cyhoeddi detholiad o ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth Blaenorol a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Proses: Mae'r broses o ddewis yr hyn a gyhoeddwn yn cael ei gwneud drwy ystyried a ydym yn credu y gallai fod budd ehangach i'r cyhoedd, pan ofynnir am wybodaeth yn gyson, neu pan nad ydy'r wybodaeth ar gael yn rhywle arall yn barod. Bydd hyn yn cael ei wneud yn fisol er mwyn gallu ystyried unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i ymatebion a gyhoeddwyd (o ganlyniad i adolygiad mewnol). Ni fydd manylion personol fel enwau, cyfeiriadau ac ati yn cael eu cynnwys er mwyn diogelu preifatrwydd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y gofrestr datgeliadau, neu i gyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth newydd, anfonwch e-bost i BCU.FOI@wales.nhs.uk
Cofiwch: Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei greu ar 1af Hydref 2009 drwy gyfuno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru.