Neidio i'r prif gynnwy

Feryllfa

Mae ein tîm Fferylliaeth yng Ngogledd Cymru yn amgylchedd cyffrous i fod yn rhan ohono. Rydym yn gymuned iechyd integredig a ni yw sefydliad iechyd mwyaf Cymru, yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, ysbytai acíwt a dewisol i boblogaeth o tua 700,000 ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn caniatáu i staff weithio a chyrchu hyfforddiant ym mhob lleoliad a mwynhau rôl sy’n wirioneddol amlsector.

Mae gennym lu o gyfleoedd yn ein gwasanaethau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferylliaeth mewn nifer o leoliadau. Pan ddowch yn rhan o’r tîm yn BIPBC, fe gewch chi’r gorau o ddau fyd – yn gweithio ar y lefel uchaf yn broffesiynol ac yn byw mewn ardal brydferth ble gallwch chi fwynhau bywyd yn fawr.

 Rydym yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Ceir gweledigaeth eglur ar gyfer ein gwasanaethau, ac os ydych chi’n awyddus i ddatblygu, mae digonedd o gyfleoedd i gael profiadau sy’n wahanol i’r arfer. Byddwch yn gallu pennu cyfeiriad go iawn i’ch gyrfa, yn amrywio o waith amlsector i rolau Fferylliaeth Glinigol arbenigol.