Neidio i'r prif gynnwy

Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd eraill

Cyhoeddir hysbysiadau eraill nad ydynt yn ymwneud â'r wefan, ar sut rydym ni fel Bwrdd Iechyd yn prosesu ac yn rhannu eich gwybodaeth a'ch data mewn mannau eraill, er enghraifft hysbysiadau COVID-19 sy'n ymwneud â TTP, yn eu hadran eu hunain o'r wefan hon yma.

Polisi Preifatrwydd y wefan hon

Mae gofyn i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd.

Dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol.  Nid ydym yn pasio eich manylion ymlaen at unrhyw drydydd parti neu sefydliadau eraill oni bai bod gennym sail gyfreithiol i wneud hynny.

Eich hawliau dan GDPR

Dan GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu hymarfer, ac mae'n rhaid i ni ystyried, o ran y wybodaeth sydd gennym amdanoch.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hawl i gael gwybod am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu;
  • hawl i gael mynediad at gopi o'ch gwybodaeth bersonol;
  • hawl, dan amgylchiadau penodol, i gywiro neu ddileu data personol sy'n anghywir; 
  • hawl, dan amgylchiadau penodol, i gyfyngu ar brosesu;
  • hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol.

Ymwelwyr i’n gwefannau

Pan fydd rhywun yn mynd ar  https://bcuhb.nhs.wales/ maent yn mynd ar wefan ein Bwrdd Iechyd, a gynhelir ar weinyddion GIG Cymru a reolir gan Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), gellir dod o hyd i'w polisi preifatrwydd yma.

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth electronig yn uniongyrchol gan ymwelwyr y wefan hon; adborth a manylion tanysgrifiad e-bost, caiff y wybodaeth hon ei storio ar weinyddion GIG Cymru.

Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i greu adroddiadau am weithgaredd defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Efallai bydd Google hefyd yn trosglwyddo'r wybodaeth hon at drydydd parti lle bo angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle bydd trydydd parti yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir yn flaenorol. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Sylwer os ydych yn analluogi cwcis, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio holl swyddogaeth y wefan hon.  Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cydsynio i brosesu data amdanoch gan Google yn y modd ac ar gyfer y pwrpas a osodir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google ac Amodau Gwasanaeth Google ar gyfer gwybodaeth fanwl.

Cwcis

Darnau o ddata a grëwyd pan fyddwch yn mynd ar wefan yw cwcis. Mae ein safle yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth tra byddwch yn symud o gwmpas y safle. Gallwch osod eich cyfrifiadur i beidio â derbyn cwcis. Fodd bynnag, os ydych yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio nodweddion rhai safleoedd oherwydd mae angen i ni gofnodi eich dewisiadau er mwyn rhoi'r wybodaeth sydd ei angen arnoch yn ystod eich ymweliad.

Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch nac yn dal unrhyw wybodaeth am ba safleoedd yr ydych wedi bod arnynt cyn dod yma. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am sut ydym yn defnyddio cwcis yma. 

Sut i Analluogi Cwcis

I newid gosodiad eich cwcis:

Internet Explorer

• Ewch ar ‘Tools’ ar y bar dewis > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Analluogi / cyfyngu ar gwcis

Firefox

• Ewch ar ‘Tools’ ar y bar dewis > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Analluogi / cyfyngu ar gwcis

Opera

• Sylwer y gall y gosodiadau uchod newid gan ddibynnu ar fersiwn y porwr.

Ymgynghoriadau ac offer arolwg ar-lein e.e. Smart Survey

Rydym yn casglu gwybodaeth a wirfoddolir gan aelodau'r cyhoedd yn defnyddio offer arolwg ar-lein a gynhelir gan Smart Survey, sy'n gweithredu fel prosesydd data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ond yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â'n cyfarwyddiadau.  Cynhelir Smart Survey yn yr Unol Daleithiau , ond maent wedi rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni safonau GDPR, a ellir ei weld yn eu Polisi Preifatrwydd.

Dolenni at wefannau eraill

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni o fewn y safle hwn sy'n cysylltu â gwefannau eraill.  Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ydych yn mynd arnynt.

E-Bost

Dymunwn eich hysbysu fod y Bwrdd Iechyd yn monitro negeseuon e-bost, yn ôl caniatâd Rheoliadau Telathrebu perthnasol, er mwyn diogelu rhwydwaith mewnol ei dechnoleg rhag haint "firws" a sicrhau fod yr anfonwr a'r Bwrdd Iechyd yn ymlynu wrth gyfraith y DU a chyfraith ryngwladol.

Rhybudd Ebost (2010) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae negeseuon E-bost a anfonir o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y 'Bwrdd Iechyd') yn gyfrinachol ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd penodol y sawl/rhai y cyfeiriwyd atynt.  Os nad ar eich cyfer chi mae'r e-bost, derbyniasoch yr e-bost mewn camgymeriad ac ni chaniateir lledaenu, anfon ymlaen, argraffu neu gopïo unrhyw e-bost gan y Bwrdd Iechyd.  Gofynnwn i chi roi gwybod i'r anfonwr eich bod wedi derbyn y neges mewn camgymeriad drwy ddefnyddio'r dewis 'Reply' yn y neges e-bost.

Barn neu gred yr awdur yn unig fydd y rhai a gyflwynir, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli rhai'r Bwrdd Iechyd.

Bydd bob neges e-bost ac unrhyw ffeiliau atodedig wedi'u gwirio gan ddefnyddio meddalwedd darganfod firysau cyn eu trosglwyddo.  Fodd bynnag, rhaid i dderbynwyr wneud eu gwiriadau firws eu hunain cyn agor unrhyw atodiad.  Nid yw’r Bwrdd Iechyd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod y gellir eu hachosi gan firysau meddalwedd.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o dan amodau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir gofyn i'r Bwrdd Iechyd, fel awdurdod cyhoeddus, i ddangos cynnwys unrhyw negeseuon e-bost neu ohebiaeth a dderbyniwyd.

Am fanylion pellach ynghylch Rhyddid Gwybodaeth, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd yma: www.pbc.cymru.nhs.uk

Sut i gysylltu â ni

BCU.DPO@wales.nhs.uk

Swyddog Diogelu Data
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Maelor Wrecsam
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
LL13 7TD 

Os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi derbyn triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rannu yn ôl gyda GIG Cymru er mwyn ei wirio a'i gyfuno gyda'ch gwybodaeth a gedwir yng Nghymru.  Bydd y wybodaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan y Bwrdd Iechyd i'ch dynodi a dilysu pa ofal a ddarperir.

Am wybodaeth am ffyrdd eraill rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol ewch ar y dolenni isod: