Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a'n gweledigaeth o ran gwella iechyd, lles a gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dull newydd sy’n arbennig i Gymru i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol yng Nghymru gan ddechrau gyda'r Dyletswydd Cymdeithasol-economaidd.

Mae'n hanfodol bod gennym drosolwg a dealltwriaeth glir o'r materion mawr y mae pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol yn eu hwynebu er mwyn bod yn sail i waith y Bwrdd Iechyd. Rydym wedi gwrando ac yn parhau i wrando a chlywed negeseuon allweddol ac yn gwerthfawrogi’r adborth yma. Rydym wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb cyfleoedd a diogelu a hybu hawliau pawb i gyflawni gwell canlyniadau i bawb.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn darparu fframwaith er mwyn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn briodol yn ein sefydliad a'i fod yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau ar bob lefel ar draws BIPBC. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o'r holl weithgareddau a wneir gan ein Bwrdd Iechyd sy'n hybu ac yn gwella cydraddoldeb a hawliau; ond mae'n amlinelliad o'n pwyslais strategol allweddol. Rydym yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu rhai o'i heriau mwyaf ers ei greu, a thros gyfnod y Cynllun hwn, mae'n rhaid i ni addasu i anghenion iechyd cyfnewidiol ein poblogaeth.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau iechyd presennol a’u gwaethygu. Rydym wedi adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’i ddiwygio mewn ymateb i effeithiau parhaus y pandemig.

Ein 9 Amcan Cydraddoldeb yw

Amcan Cydraddoldeb 1 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau er mwyn helpu i ganfod effaith tlodi ac i'w lliniaru ar gyfer y rheiny sy'n derbyn gofal iechyd sydd mewn perygl o fyw mewn aelwydydd incwm isel yng Ngogledd Cymru neu sydd wironeddol yn gwneud hynny.

Amcan Cydraddoldeb 2 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau i leihau anghydraddoldeb iechyd a gwella hygyrchedd gofal iechyd i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol yng Ngogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 3 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau i ymateb i ddatblygiadau polisi a chyfreithiol allweddol ym maes gofal iechyd i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol yng Ngogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 4 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau er mwyn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Ngogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 5 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau i fynd i'r afael â diogelwch personol ar gyfer pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol o ran manteisio ar wasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 6 BIPBC

Byddwn yn ymgysylltu fwyfwy ag unigolion a grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol yng Ngogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 7 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau i wella cyfranogiad ar gyfer pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol mewn gwasanaethau iechyd ar draws Gogledd Cymru.

Amcan Cydraddoldeb 8 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau i ddatblygu diwylliant cynhwysol lle bydd arweinwyr yn dangos eu hymrwymiad i hybu cydraddoldeb yn BIPBC a thu hwnt  a chaniatáu gweithlu teg a chynhwysol.

Amcan Cydraddoldeb 9 BIPBC

Byddwn yn blaenoriaethu camau er mwyn gwella cydraddoldeb rhwng yr hiliau yng Ngogledd Cymru.


Sut i gysylltu â’r Tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

I gysylltu â Thîm Cydraddoldeb BIPBC anfonwch e-bost at BCU.Equality@wales.nhs.uk neu'r Adborth gan Gleifion ac Ymwelwyr.

Fformatau gwahanol

Gellir gwneud cais i gael yr holl ddogfennau y cyfeirir atynt mewn ieithoedd neu fformatau eraill.
Ar gyfer fformatau eraill, cysylltwch â'r:

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion

Ebost: BCU.PALS@wales.nhs.uk

Ffôn: 03000 851234

Sylwer efallai bod gan rai o’r dogfennau hanesyddol a gynhwysir ar y tudalennau hyn ddolenni at ddogfennau nad ydynt bellach yn weithredol. Os byddwch angen mynediad at y rhain cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb.