Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd y Bwrdd Iechyd

Cyhoeddwyd y dudalen: 20/02/2024 ​

Yr adeg hon y llynedd, cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ein bod ni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cadwaladr, yn cael ein gosod yn y lefel uchaf o uwchgyfeirio: Mesurau ArbennigGwnaethpwyd y penderfyniad hwn oherwydd pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant y Bwrdd.  

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu llawer o newidiadau o fewn y bwrdd iechyd gyda chymorth a chyngor gan gynghorwyr annibynnol arbenigol. ​  

Bu newid o ran arweinyddiaeth a dull gweithredu. Mae gennym bellach sylfaen gadarn i adeiladu arni, gyda Phrif Weithredwr, Cadeirydd ac aelodau Bwrdd newydd yn eu lle sydd wedi ymrwymo i wella ein ffyrdd o weithio, y ffordd rydym yn ymdrin â chyllid ac yn y pen draw gwella ansawdd y gofal a ddarperir a phrofiadau ein cleifion a'u teuluoedd. ​  

Wrth gwrs, mae llawer o waith i'w wneud o hyd ac wrth i ni ddyfalbarhau ar ein taith o wella, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaethau gofal iechyd rhagorol ynghyd â newid cadarnhaol hirdymor i bobl gogledd Cymru.  

Dangosodd adroddiad carreg filltir diweddar Archwilio Cymru fod y Bwrdd Iechyd yn symud i'r cyfeiriad cywir gyda mwy o sefydlogrwydd.  Mae cyfeiriad cliriach tuag at ddiwylliant cadarnhaol a chefnogol a gwyddom fod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder yn y sefydliad ymhlith y cyhoedd, staff a phartneriaid. ​ 

Rydym yn dal i wynebu llawer o heriau, mae gennym wasanaethau sydd angen eu gwella o hyd, heriau ariannol parhaus 

a mwy i'w wneud i osod y sylfeini ar gyfer y sefydliad y mae arnom eisiau ac angen bod. ​  

Gwyddom fod pobl wedi bod yn rhwystredig oherwydd yr amseroedd aros am apwyntiad, gofal a thriniaeth a thros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gallu gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cwtogi ychydig o’r amseroedd aros ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. ​ Byddwn yn parhau i flaenoriaethu cwtogi amseroedd aros wrth i ni symud ymlaen.   

Mae ein staff yn parhau i weithio'n hynod o galed i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar draws lleoliadau sylfaenol, cymunedol ac yn ein hysbytai. ​ Rydym yn awyddus i'w cefnogi i wneud y swyddi y maent wedi'u hyfforddi i'w gwneud ar lefel uchel, gan ddathlu eu hymdrechion a'u llwyddiannau ar hyd y ffordd.​  

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n staff, ein partneriaid a’n cymunedau i wneud hyd yn oed mwy o gynnydd dros y flwyddyn i ddod a thu hwnt. ​ 

Rydym yn gweithio tuag at welliannau ar draws y Bwrdd Iechyd o dan y pum nod a ganlyn, y byddwn yn adeiladu arnynt dros y flwyddyn nesaf: ​ 

  • Bod yn Fwrdd sy'n gweithredu'n dda 
  • Cael cynllun clir y gellir ei gyflawni 
  • Cael arweinyddiaeth ac ymgysylltiad cryf 
  • Gwella mynediad, canlyniadau a phrofiad 
  • Bod yn sefydliad sy'n hunanwella ac yn dysgu  

Ceir rhagor o wybodaeth isod: