Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllwyr ac athrawon yn dod at ei gilydd i ledaenu'r gair am ymwrthedd gwrthficrobaidd

Mae fferyllydd gwrthficrobaidd yng Ngogledd Cymru wedi ymuno ag arweinwyr ysgolion iach yng Nghonwy a Sir Ddinbych i ddarparu sesiynau addysgu i athrawon ysgol cynradd i helpu sicrhau bod gwrthfiotigau'n parhau i weithio am genedlaethau i ddod.

Cymerodd dros 30 o athrawon o ysgolion cynradd ar draws y ddwy sir ran mewn cynllun peilot i ddarparu hyfforddiant ar ddefnydd priodol o wrthfiotigau.

Drwy weithio gydag athrawon, mae fferyllwyr yn gobeithio y byddant yn helpu i annog plant i ddeall pam ei bod yn bwysig defnyddio gwrthfiotigau'n gywir, ac i arafu datblygiad ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd yw cynnydd mewn risg byd eang bod gwrthfiotigau'n methu. Mae ffactorau megis gorddefnydd a rhagnodi anghywir wedi arwain at gynnydd mewn organebau sy’n ymwrthod gwrthfiotigau, sy'n achosi salwch na ellir ei drin yn effeithiol.

Y canlyniad yw'r risg y bydd gwrthfiotigau'n stopio gweithio'n gyfan gwbl, gan nodi risg iechyd i filoedd o bobl ar draws y byd.

Mae fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn parhau i weithio'n galed i annog defnydd priodol o wrthfiotigau i sicrhau eu bod yn parhau i drin pobl sâl cyn hired â phosibl.

Dywedodd Kailey Sassi-Jones, Fferyllydd Gwrthficrobaidd, sydd wedi arwain y pedair sesiwn hyfforddiant: "Dros y ddeg mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Meddygon Teulu i wella cyfraddau rhagnodi yng Ngogledd Cymru. Rŵan, rydym yn edrych ar ffyrdd gwahanol y gallwn barhau i rannu'r negeseuon a fydd yn ein helpu i ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

"Un o'r syniadau oedd annog athrawon i rannu'r negeseuon mewn ysgolion. Drwy addysgu plant ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd, y gobaith yw y byddant yn deall pam fod gwaith i atal ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bwysig, a rhannu'r cyngor maent wedi'i gael yn yr ysgol gyda'u teuluoedd.

"Cawsom gyswllt ac anogaeth wych gan yr athrawon a gymerodd ran, ac rydym wir yn gobeithio y gallant hwy ein helpu i ledaenu'r gair ynghylch pa mor bwysig yw defnydd priodol o wrthfiotigau.”

Nid yw gwrthfiotigau'n gweithio ar firysau megis annwyd, ffliw a dolur gwddf, ac achosir miloedd o farwolaethau'n flynyddol oherwydd bod rhai bacteria peryglus wedi dod yn fwy ymwrthol i wrthfiotigau, sy'n golygu efallai na fyddant yn gweithio i chi pan fyddwch fwyaf eu hangen.

Mae cyngor gan fferyllwyr yn cynnwys sicrhau bod gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio gan y rhai sy'n eu cael yn unig, a sicrhau bod pob cwrs yn cael ei gwblhau'n llawn, hyd yn oed pan fydd y defnyddiwr yn teimlo'n well.

Dywedodd Kailey: "Darparwyd yr hyfforddiant gan ddefnyddio'r wefan e-bug, sy'n adnodd achrededig NICE i ddysgu plant am ddefnydd priodol o wrthfiotigau.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n flaenorol yn uniongyrchol gydag ysgolion, ond drwy gydweithio ag athrawon, rydym yn gobeithio lledaenu'r neges ynghylch defnydd priodol o wrthfiotigau i gynulleidfa llawer ehangach."

Mae gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i athrawon a phlant oed ysgol ar gael ar wefan e-Bug https://www.e-bug.eu