Yma fe welwch wybodaeth am ddigwyddiadau cyhoeddus a drefnir gan y Bwrdd Iechyd
Pryd: Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2025
Ble: Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl | 9am - 4pm
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis, rydym wedi partneru â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i gynnal Cynhadledd Iechyd Merched.
Ymunwch â ni am gyflwyniadau ar amrywiaeth o bynciau yn ymwneud ag iechyd a lles merched gan gynrychiolwyr a sefydliadau ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys:
Gyda dros 70 o stondinau gwybodaeth am iechyd a lles, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i sgwrsio gyda chydweithwyr o wasanaethau a sefydliadau iechyd amrywiol.
Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn agored i bawb, gan gynnig cyfle i archwilio pynciau pwysig ym maes iechyd merched. Mae lluniaeth ar gael.
Cofrestrwch eich lle yma: Cynhadledd Iechyd Merched / Women's Health Conference Tickets, Tue 4 Mar 2025 at 09:00 | Eventbrite
Diolch i Gymunedau sy’n Ystyriol o Oedran Sir Ddinbych a sefydliadau eraill am eu nawdd i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.
Dyfarniad Lefel 2 Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Gweithdrefnau Arbennig
Hyfforddiant ac asesiadau wyneb yn wyneb a ddarperir gan Wasanaeth Diogelu Iechyd BIPBC | Darllenwch mwy
Pris y Cwrs - £155 y pen
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025, 9am - 4:30pm ** POB LLE WEDI'I LENWI **
Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ffordd yr Ysbyty, Llandudno LL30 1LB
Dydd Mawrth 18 Chwefror, 9am - 4:30pm
Ysbyty Bryn y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan LL33 0HH
Dydd Mawrth 18 Mawrth, 9am - 4:30pm
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug CH7 1PZ
Dydd Iau 24 Ebrill 2025, 9am to 4:30pm
Ysbyty Bryn y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan LL33 0HH
I gael rhagor o wybodaeth ac i neilltuo lle, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu Iechyd BIPBC trwy ffonio 03000 840005 neu e-bostio bcu.healthprotection@wales.nhs.uk.
Ymunwch a ni am ddiweddariad Canolfan Maggie’s Fforwm ar-lein - 21 Ionawr 2025 - 5:30pm-6:30pm. Ebostiwch bcu.getinvolved@wales.nhs.uk i gofrestru i'r sessiwn ar-lein.