Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn astudiaeth unigryw

Cafodd grŵp o bobl yng Ngogledd Cymru gyfle unigryw i gymryd rhan mewn astudiaeth i ganfod p'un a all wella ansawdd eu bywyd yn dilyn triniaeth canser.

Cafodd yr astudiaeth CLASP, sef rhaglen ar-lein a elwir yn Renewed ar gyfer pobl sydd wedi cael canser y brostad, y fron neu'r coluddyn, ei gynnig i bobl sydd wedi gorffen eu prif driniaeth canser yn y 10 mlynedd diwethaf neu sy'n cael eu monitro ar gyfer canser y brostad.

Mae Renewed yn rhaglen ar-lein a all helpu pobl i fod yn fwy actif, lleihau eu lefelau straen, rheoli eu pwysau, bwyta diet iach a theimlo'n llai blinedig.

Dywedodd Dr Nikhil Oomen, Oncolegydd Clinigol yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd yn Ysbyty Glan Clwyd: "Fel Prif Ymchwiliwr rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yn yr astudiaeth CLASP yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rheoli sgil effeithiau hir dymor a sgil effeithiau tymor byr triniaeth canser ein cleifion a'r effaith ar ansawdd bywyd ar ôl triniaeth."

Gofynnir i bawb a gymerodd ran yn yr astudiaeth, a ddaeth i ben ddiwedd mis Hydref, i gwblhau holiadur ar-lein ar ôl chwe mis ac ar ôl blwyddyn. Mae'r holiadur yn gofyn iddynt am eu teimladau a p'un a yw'r rhaglen wedi'u helpu i wella ansawdd eu bywyd.

Dywedodd Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd: "Rydym yn falch o gefnogi CLASP fel recriwtiwyr gorau yng Nghymru ar gyfer pobl yn dilyn triniaeth canser.

"Rydym wedi ymrwymo i allu cynnig y cyfle i'n poblogaeth leol gymryd rhan mewn ymchwil gyda thimau ymchwil ymroddedig sy'n cynnwys gofal cychwynnol a chlinigwyr yn cydweithio”.