Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth cynhyrysgerbydol yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei ganmol gan Feddyg Teulu rhyngwladol

Mae Meddyg Teulu wedi canmol gwasanaeth cyhyrysgerbydol arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, ac yn gobeithio datblygu model tebyg mewn clinigau gofal cychwynnol yn Singapore.

Treuliodd Dr Zhang Zhi Peng, dair wythnos yng Ngwynedd a Môn yn edrych ar y systemau o fewn gofal cychwynnol a gofal eilaidd, ac yn dysgu am y Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS).

Cyflwynwyd CMATS yn Ysbyty Gwynedd yn 2002, a chafodd ei gyflwyno yn genedlaethol yn 2012, a newidiodd y system ar gyfer delio â chyfeiriadau cleifion allanol gan Feddygon Teulu ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol. Roedd hyn yn cynnwys Orthopaedeg, Rhewmatoleg, Rheoli Poen a Ffisiotherapi.

Dywedodd Dr Jeremy Jones, Rhewmatolegydd Ymgynghorol, a sefydlodd y gwasanaeth: "Mae CMATS wedi cael ei ddatblygu i ddarparu llwybr effeithlon ac effeithiol at un pwynt mynediad ar gyfer pob cyfeiriad Cyhyrysgerbydol (MSK).

"Nod CMATS yw sicrhau bod y claf yn cael ei asesu a'i drin mor gyflym â phosibl gan y clinigwr / arbenigedd mwyaf priodol.

"Daw cyfeiriadau i mewn i ganolfan brysbennu CMATS a bydd Tîm CMATS yn edrych arnynt. Byddent yn asesu’r wybodaeth a ddarparwyd gan y Meddyg Teulu o ran pa wasanaeth sydd orau ar gyfer anghenion y claf."

Yna bydd y cyfeiriad yn cael ei anfon ymlaen at yr arbenigedd mwyaf priodol, gall hyn fod yn Orthopaedeg, Tîm MSK/Sbinol CMATS, Rhewmatoleg, Gwasanaethau Poen, Gwasanaethau Therapi neu'r Rhaglen Ffordd o Fyw Orthopaedig.

Dyluniwyd y Rhaglen Ffordd o Fyw Orthopaedig i gefnogi a darparu rhaglen colli pwysau ac ymarfer corff ar gyfer pobl ag arthritis yn eu cluniau neu bengliniau sydd angen cymal newydd. Mae'r rhaglen ar gyfer pobl â BMI o 35 ac uwch i wella iechyd a lles.

Dywedodd Dr Zhang, sy'n gweithio fel Meddyg Teulu mewn meddygfa fawr yn Singapore, bod ei ymweliad wedi bod yn hynod o fanteisiol.

Dywedodd: "Rydym yn gweld nifer o gleifion gyda chyflyrau tebyg yn ein meddygfa yn Singapore. 

"Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar aildrefnu'r system ar gyfer darparu gofal iechyd ar gyfer unigolion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol, felly mae'r tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

"Mae'r gwasanaeth CMATS yn adnabyddus yn rhyngwladol, dyma pam roeddwn eisiau dod i Ogledd Cymru i ddysgu mwy amdano, a gweld a ydym yn gallu defnyddio elfennau o'r gwasanaeth hwn yn Singapore."

"Mae wedi bod yn ddiddorol iawn, ac mae bob amser yn wych dysgu a gweld sut mae pethau yn cael eu gwneud yn rhannau eraill o'r byd. Mae hwn yn wasanaeth gwych, a gallaf weld o fy amser yma, fod cleifion wir yn elwa ohono."