23.05.2026
Dros y misoedd diwethaf, mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i weithio ar adolygiad o wasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Llannerch Banna, ochr yn ochr â rhaglen eang o ymgysylltu â chymunedau lleol, staff, partneriaid a rhanddeiliaid.
Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ymgysylltu cymunedol, cyfarfodydd â staff a chlinigwyr, trafodaethau â sefydliadau lleol a dwy sesiwn “Ystafell Gytbwys” a hwyluswyd yn annibynnol, gan gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, i helpu i lunio a phrofi opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adolygiad wedi tynnu sylw at nifer o heriau sylweddol sy’n gysylltiedig â'r model cleifion mewnol blaenorol, gan gynnwys cynaliadwyedd y gweithlu, seilwaith clinigol cyfyngedig, defnydd isel a'r angen i sicrhau bod gwasanaethau'r dyfodol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
O ganlyniad i’r gwaith hwn, bydd papur yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ar 28 Mai 2026 yn gofyn am gymeradwyaeth i symud i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar dri opsiwn gwasanaeth posibl yn y dyfodol ar gyfer Llannerch Banna.
Yn bwysicach, nid oes unrhyw opsiwn dewisol yn cael ei argymell ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi’i wneud.
Bydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn rhoi cyfle i bobl leol, staff, rhanddeiliaid a phartneriaid i roi eu safbwyntiau ar yr opsiynau ar y rhestr fer, ochr yn ochr ag unrhyw gynigion amgen rhesymol eraill a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, disgwylir i'r ymgynghoriad ffurfiol gael ei gynnal dros yr haf, gyda deunyddiau ymgynghori yn cael eu datblygu dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys fersiynau hygyrch a dwyieithog. Bydd gwybodaeth bellach am amserlen yr ymgynghoriad, a sut y gall pobl gymryd rhan, yn cael ei rhannu ar ôl cyfarfod y Bwrdd.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r sgwrs â grwpiau a chymunedau lleol a rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd lleol a fforymau cymunedol yn ystod y cyfnod ymgynghori lle bo hynny'n ddefnyddiol.
Yn dilyn adborth yn sgil camau cychwynnol y gwaith ymgysylltu, rydym hefyd yn llunio rhestr o grwpiau a mannau cyfarfod yn y gymuned leol ble gellir hysbysebu cyfleoedd i gyfranogi neu fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Os gwyddoch am grŵp neu leoliad a allai fod yn ddefnyddiol, rhowch wybod i ni: BCU.Planning@wales.nhs.uk
Cwblhewch yr arolwg - Llunio Dyfodol Ysbyty Cymuned Llannerch Banna