Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Addysg Feddygol yn mynd yn ôl i'r dyfodol i helpu egin feddygon

Mae tîm Addysg Feddygol yng Ngogledd Cymru wedi rhannu eu sgiliau a'u profiadau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon.  

Rhoddodd Adran Israddedigion Ysbyty Maelor Wrecsam flas o’r hyn mae'n ei gymryd i fod yn feddyg o'i iawn ryw i fyfyrwyr ysgolion lleol yn eu digwyddiad Meddygon y Dyfodol blynyddol. 

Mynychodd myfyrwyr TGAU o'r ardal gyfagos, sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn meddygaeth, y digwyddiad yn Uned Hyfforddi Clinigol yr ysbyty.  

Arweiniodd Dr Fiona Rae, Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Achosion Brys, y cyflwyniadau i’r myfyrwyr a defnyddiodd ei phrofiad ei hun i roi golwg fanwl ar yr hyn sydd ei angen i ddilyn gyrfa fel meddyg.

Yn dilyn y sesiynau cyflwyno, cafodd y myfyrwyr gyfle i weld yr ochr ymarferol o fywyd fel meddyg. 

Cawsant gymryd rhan mewn gweithdai sgiliau clinigol, megis perfformio CPR a dysgu defnyddio diffibriliwr ar fodelau efelychu.

Dywedodd y Rheolwr Israddedigion, Andrea Taylor:  "Rydym yn cynnal y digwyddiad Meddygon y Dyfodol i gefnogi unrhyw fyfyriwr lleol yn Wrecsam a'r ardal gyfagos sy'n ystyried gyrfa fel meddyg ond sydd efallai'n ansicr beth sydd ei angen i gamu ar y llwybr hwn. 

"Mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o frwdfrydedd gan y myfyrwyr sydd wedi mynychu'r digwyddiad, mae'r tîm wedi mwynhau ymgysylltu â nhw, yn enwedig yn y gweithdy sgiliau clinigol."

Ychwanegodd: "Yn wir, mae yna feddygon y dyfodol yn eu plith ac rydym eisiau iddynt wybod bod yr Adran Israddedigion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yno i'w helpu a'u cefnogi ar eu taith."

Rhannodd Cymrodion Addysg Feddygol, Dr Colette Cook a Dr Rea Hughes eu profiadau, eu meddyliau a'u cyngor ar yr hyn sydd ei angen i fod yn feddyg.

Ymunodd y myfyrwyr Meddygol, Amelia Dickinson ac India Corrin, gyda nhw i ddarparu mewnwelediad ar gael eu derbyn a mynychu ysgol feddygol. Hefyd, daeth cynrychiolydd  o Ysgol Feddygol Caerdydd, Sara Vaughan, i drafod pa briodoleddau y byddai eu hangen arnynt i ddod yn feddyg.