Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect arloesol sydd wedi'i gynllunio i leihau'r pwysau ar wasanaethau ysbyty'n dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus

Mae dros 5,000 o gleifion ar draws Gogledd Cymru wedi cael budd o gydweithrediad arloesol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST). 

Cyflwynwyd y Gwasanaeth Brysbennu ac Asesiad Clinigol Integredig Unigol (SICAT) yng Nghanolfan Cyswllt Clinigol Ambiwlans Gogledd Cymru ym mis Hydref 2018 i adolygu galwadau 999. 

Penodwyd tîm o Feddygon Teulu i'r gwasanaeth i adnabod cleifion a fyddai efallai'n cael budd o weld eu Meddyg Teulu neu eu fferyllydd yn hytrach na mynd i'r Adran Achosion Brys mewn ambiwlans. 

Mae'r Meddygon Teulu ynghyd â’r Ymarferwyr Parafeddyg Uwch yn asesu'r claf pan fyddant yn ffonio 999 trwy edrych ar eu hanes clinigol, a lle bo hynny'n ddiogel ac yn bosibl, maent yn cynnig llwybr amgen ar gyfer eu salwch neu anaf.

Dywedodd Dr Helen Alefounder, un o'r Meddygon Teulu sydd ynghlwm â'r gwasanaeth:  "Lansiwyd y fenter gyffrous hon gyda WAST i gefnogi’r ffordd yr ydym yn gofalu am ein cleifion ac yn cyfeirio ymhellach.

"Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, gofal y tu allan i oriau ynghyd â gofal cychwynnol ac eilaidd. 

“O'r 5,000 o gleifion yr ydym wedi'u hadolygu trwy SICAT rydym wedi lleihau nifer y derbyniadau i'r Adran Achosion Brys 65 % yn ogystal â nifer yr ambiwlansys sydd angen bod yn bresennol.

“Mae'n wasanaeth effeithiol a deinamig sy'n helpu i leihau'r galw ar ein Adrannau Achosion Brys a'n gwasanaeth ambiwlans gan sicrhau bod ein cleifion yn cael eu gofal yn y lle iawn ar yr amser iawn.

"Mae hwn wedi bod yn brosiect cadarnhaol iawn o'r cychwyn ac mae'r cymorth gan staff o'r ddau sefydliad wedi bod yn aruthrol.

“Mae gwir ymdeimlad ein bod yn gwneud gwahaniaeth a gall pobl sy’n gweithio gyda’r prosiect weld yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar lawer o gleifion sy’n arbennig o eiddil, bregus a chleifion lliniarol.”

Dywedodd Mark Timmins, Arweinydd Gweithredu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Ngogledd Cymru, fod y cydweithredu hwn wedi galluogi cleifion i gael mynediad at y system yn y ffordd iawn.

Dywedodd: “Nid yr Adran Achosion Brys yw’r ateb bob amser, a dyna pam rydym yn gweithio gyda Meddygon Teulu i gyfeirio cleifion at ddewis arall mwy priodol pe bai modd delio â’u salwch neu anaf yn well mewn man arall.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y fenter hon yn gwneud gwahaniaeth, yn rhyddhau ein criwiau a'n cerbydau i ymateb i achosion brys eraill sy'n fwy difrifol.

“Mae'r SICAT hefyd yn rhoi llwybr uniongyrchol i'n criwiau tuag at help a chyngor tra'u bod yn dal gyda chlaf ac maent wedi nodi bod hyn yn wasanaeth yn amhrisiadwy.
 

"Gall y cyhoedd helpu gan ddefnyddio ein gwasanaeth ambiwlans yn gall; helpwch ni i'ch helpu chi pan fyddwch ein hangen ni fwyaf a meddyliwch yn ofalus cyn ffonio 999."