Neidio i'r prif gynnwy

Edward yn dathlu ei ben-blwydd drwy ganu'r gloch newydd diwedd triniaeth yn Uned Plant Ysbyty Glan Clwyd

Dathlodd bachgen ifanc o Dreffynnon ei ben-blwydd mewn steil drwy fod y plentyn cyntaf i ganu’r gloch newydd diwedd triniaeth yn Uned Plant Ysbyty Glan Clwyd.

Dathlodd Edward Kelly, sy'n bedair mlwydd oed, ddiwedd ei ofal yn yr ysbyty drwy ganu'r gloch newydd ar gyfer cleifion paediatrig sy'n cwblhau eu triniaeth oncoleg.

Mae Edward wedi cwblhau ei gwrs triniaeth ar ôl cael diagnosis o diwmor yr ymennydd medwloblastoma ym mis Hydref 2018. 

Yn dilyn bron i flwyddyn o driniaeth yn cynnwys llawdriniaeth, dos uchel o gemotherapi a mewnblaniad bôn-gelloedd nid yw ei sganiau MRI dilynol yn dangos unrhyw dystiolaeth bod ganddo diwmor neu glefyd ac roedd yn gallu dathlu diwedd ei gwrs triniaeth ar ei ben-blwydd, ar 9 Hydref bron 12 mis i'r dydd y cafodd ei ddiagnosis. 

Gosodwyd y gloch newydd, sydd wedi ei hariannu diolch i waith codi arian teuluoedd plant sy'n derbyn triniaeth canser, i helpu cleifion ifanc a'u teuluoedd i gael rhyw fath o ddiweddglo yn dilyn dod i ddiwedd eu triniaeth.

Mae cleifion canser sy'n blant o Ogledd Cymru yn derbyn eu prif driniaeth yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, ac yn cael mynediad at ofal ategol hefyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

Mae triniaeth yn lleol yn cynnwys therapïau mewnwythiennol, trallwysiadau gwaed, a gofal brys ar gyfer y sgil effeithiau a achosir gan driniaeth cemotherapi. 

Er bod cwrs triniaeth Edward yn awr wedi dod i ben, bydd yn parhau i gael sganiau MRI rheolaidd dros y blynyddoedd nesaf. 

Ymunodd ei fam Catherine, ei dad Shaune, ei frawd a’i chwaer Dylan ac Edith a'i nain a'i daid Carol a Bernard gyda Edward ar ei ben-blwydd yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ogystal â'r staff sydd wedi'i helpu yn ystod ei driniaeth. 

Dywedodd Catherine, mam Edward:  "Treuliodd Edward llawer o amser yma rhwng ei driniaethau Cemotherapi yn Alder Hey - ar yr adegau prin pan oedd yn cael dod adref, byddai'n dod yma'n rheolaidd ar gyfer trallwysiadau a gofal arall, petai ei dymheredd yn codi ychydig bach byddai'n rhaid iddo ddod i mewn i'r ysbyty ar unwaith i ddechrau gwrthfiotigau mewnwythiennol". 

"Er yr oeddem gartref, nid oeddem byth gartref go iawn.  Roedd yn dal yn rhaid iddo ddod i mewn i'r ysbyty, a daeth fan hyn yn rhyw fath o ail gartref mewn ffordd, roeddem yma bob un diwrnod."

"Mae gallu bod yma i ganu'r gloch diwedd triniaeth yn deimlad chwerwfelys.  Mae'n wych gallu dathlu diwedd ei driniaeth, er y gwyddom fod ganddo lawer o waith i'w wneud yn nhermau gwella’n llwyr.

"Mae yna lawer o blant nad ydynt yn cael y cyfle i ddathlu’r digwyddiad hwn gyda'u teuluoedd, felly rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.  Mae'n wych gallu cael y teulu ehangach yma i ddathlu diwedd ei driniaeth.

"Mae'n arwyddocaol fod plant yn gallu gwneud hyn, mae'n gwneud iddynt sylwi na fydd mwy o feddyginiaethau gobeithio a ddim cymaint o driniaethau a gwiriadau chwaith gobeithio. 

"Mae'r gydnabyddiaeth honno, yn enwedig pan maent yn fychan, yn bwysig iawn i'w helpu i ddeall eu bod ar ddiwedd y cwrs penodol hwn o’u triniaeth.  Ar gyfer y rhai bach, mae cael canu’r gloch a chael seremoni fach yn llawer haws i'w ddeall na eistedd i lawr a chael gwybod nad ydynt yn wynebu mwy o driniaethau."

Dyweddodd Elen Moseley, Nyrs Arbenigol Oncoleg Paediatrig, sydd wedi cefnogi Edward a'i deulu yn ystod ei driniaeth: "Penderfynom gael y gloch ar ôl derbyn sawl cais amdani gan deuluoedd plant sy'n cael triniaeth canser ar hyn o bryd.

"Teimlai’r teuluoedd eu bod yn cael canu'r gloch yn Alder Hey sy'n wych ond nad oeddent yn gallu cael rhyw fath o ddiweddglo yn Ysbyty Glan Clwyd. 

"Byddent yn hoffi dathlu diwedd eu triniaeth gyda'r staff yma a dweud diolch am y gefnogaeth a'r gofal a roddir.  Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y gloch.”

Darparwyd y gloch gan yr elusen End of Treatment Bells. Mae'r elusen hon yn cyflenwi clychau diwedd triniaeth i sefydliadau gofal iechyd ar draws y Deyrnas Unedig i helpu pobl i ddathlu diwedd cwrs eu triniaeth canser. 

Yn ogystal â chael mynediad at driniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, cafodd Edward a'i deulu mwy o gefnogaeth gan Weithiwr Cymdeithasol Clic Sargent, y mae ei rôl yn cynnwys rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser yn ystod plentyndod.