Neidio i'r prif gynnwy

Telarau Defnyddio

Defnydd a Ganiateir

Mae ymwelwyr â Betsi Cadwaladr University Health Board (y wefan hon) yn cael caniatâd i weld y deunyddiau sydd wedi'u cyhoeddi (y cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych chi'n cytuno y byddwch chi'n rhwym wrth y telerau defnyddio.

Caniateir i ymwelwyr gael mynediad at y cynnwys, ei lwytho i lawr a'i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (ee ymchwil breifat, astudio neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan / hawlfraint.

Ni a/neu drydydd partïon sy'n berchen ar y delweddau, y logos a'r graffeg sy'n cael eu defnyddio ar y safle hwn. Ni cheir eu defnyddio heb ganiatâd y sawl sy'n berchen ar yr hawlfraint.

Rydych chi'n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n ymwneud â'r wefan hon yn perthyn i Betsi Cadwaladr University Health Board a, phan fo'n berthnasol, trydydd partïon cysylltiedig.

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch chi'n cyflwyno data o'ch gwirfodd ar y wefan yma ac mae'r data'n golygu bod modd eich adnabod (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflen adborth, holiaduron ac ati), bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno ddim ond yn cael ei defnyddio i ymateb i'ch ymholiadau a'r diben roeddech chi wedi'i fwriadu. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr y wefan â thrydydd partïon.

Diogelu rhag Firysau

Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunyddiau am firysau. Fodd bynnag, mae'n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunyddiau rydych chi'n eu llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb os bydd unrhyw ddata ar eich system gyfrifiadurol yn cael ei ddifrodi, ei ddrysu neu ei golli wrth ddefnyddio deunyddiau a ddaw o'r wefan hon.

Ymwadiad

Rydyn ni wedi gofalu bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, dim ond gwybodaeth gyffredinol ydy'r cynnwys, a chi sy'n gyfrifol am ei ddefnyddio. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled a geir o unrhyw weithred neu ddiffyg sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar y wefan hon.

Gwefannau Allanol

Nid ydy Betsi Cadwaladr University Health Board yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y mae dolenni'n arwain iddynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r cynnwys nac am ganlyniadau yn dilyn unrhyw gyngor sydd ar safleoedd o'r fath. Ni ddylid tybio bod y ffaith ein bod yn rhestru'r wefan yn golygu ein bod yn ei chymeradwyo o gwbl.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau sydd ar gael drwy'r dolenni na newid cyfeiriadau gwefannau.

Mae Betsi Cadwaladr University Health Board yn cadw'r hawl i wrthod neu i dynnu dolenni i unrhyw wefan.

Nodweddion Google Translate

Mae'r Nodwedd Google Translate wedi'i galluogi ar wefannau GIG Cymru, ac mae hyn yn cynnig cyfieithiadau a wneir gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru unrhyw reolaeth drosto. Nid ydy'r tudalennau sy'n cael eu cyfieithu'n rhan o'r wefan rydyn ni'n ei chynnal ac nid ydynt yn gysylltiedig â pharth GIG Cymru.

Cyfieithu awtomataidd gyda chyfrifiadur ydy'r gwasanaeth hwn ac o'r oherwydd ni fydd yn cynhyrchu cyfieithiad perffaith ac mae'n dueddol o wneud camgymeriadau na fyddai pobl yn eu gwneud.

Dylid defnyddio'r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid ydy GIG Cymru yn derbyn atebolrwydd mewn unrhyw ffordd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac am unrhyw golled a geir o'u herwydd. 

Newidiadau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau i'r telerau hyn yn cael eu darparu ar y wefan hon.