Neidio i'r prif gynnwy

Merch o Wrecsam yn rhoi teyrnged i effaith gwasanaeth newydd MI FEDRAF "sy'n newid bywyd"

Mae merch o Wrecsam wedi rhoi teyrnged i effaith gwasanaeth iechyd meddwl newydd "sy'n newid bywyd" a helpodd hi drwy ei horiau tywyllaf.

Dywedodd Shannon Doherty fod y gefnogaeth a gafodd drwy'r Ganolfan MI FEDRAF yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi helpu i newid ei bywyd, wedi iddi dreulio amser yn yr ysbyty ar ôl iddi gymryd gorddos ym mis Mawrth eleni.

Mae'r ferch 23 oed yn un o 2,500 o bobl sydd wedi cael help gan Ganolfannau MI FEDRAF ers iddynt gael eu cyflwyno ar ddechrau 2019.

Mae Canolfannau MI FEDRAF yn cefnogi pobl mewn argyfwng sydd wedi mynd i Adrannau Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae hyn yn cynnwys pobl sydd mewn argyfwng o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, perthnasau wedi chwalu, problemau gyda dyledion ac unigrwydd.

Mae'r canolfannau'n cael eu cefnogi gan gymysgedd o staff cyflogedig a gwirfoddolwyr, yn aml sydd â phrofiad personol o sut beth yw byw â phroblemau iechyd meddwl. Mae cefnogaeth MI FEDRAF pellach ar fin cael ei chyflwyno mewn cymunedau a meddygfeydd ar draws y rhanbarth yn y misoedd nesaf.

Dechreuodd brwydr Shannon pan oedd yn 12 oed ac fe arweiniodd ei brwydrau at hunan niwed yn rheolaidd. Yn ystod ei horiau tywyllaf fe ystyriodd yfed cannydd, ac fe geisiodd ladd ei hun nifer o weithiau, gan arwain at gyswllt rheolaidd ag Adran Achosion Brys ac Uned Seiciatrig Heddfan, Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond fe newidiodd ei bywyd ym mis Mawrth eleni, pan gafodd ei chyflwyno i'r gwasanaeth MI FEDRAF ar ôl cymryd gorddos o feddyginiaeth.

Eglurodd Shannon, “Yr holl feddyliau a oedd yn mynd trwy fy meddwl oedd fy mod i mewn bob mis y flwyddyn diwethaf am wneud yr un peth a chyn gynted ac y cefais fy rhyddhau roeddwn yn sicrhau bod gennyf ddigon o feddyginiaeth ac yn gwneud yr un peth eto".

"Ond cefais fy nghyflwyno i'r tîm MI FEDRAF ac fe aethom â mi allan o amgylchedd ward yr ysbyty. Roedd yn gyfle i mi fod yn agored yn hytrach na chael pobl yn edrych i lawr arnaf ac yn fy meirniadu.

"Ar ôl ychydig o oriau, roeddwn wedi mynd drwy bob emosiwn a phan ddychwelais i'r ward roeddwn yn teimlo bod pobl wedi gwrando arnaf ac roedd fy mhroblemau fel petaent wedi cael eu golchi i ffwrdd."

Yn benderfynol o roi rhywbeth yn ôl, fe ddaeth Shannon yn wirfoddolwr rheolaidd ac yn ddiweddar mae wedi dod o hyd i waith fel Goruchwyliwr Canolfan MI FEDRAF.

Dywedodd: "Mae'n braf bod gan staff a gwirfoddolwyr brofiadau personol oherwydd maent yn gwybod sut beth ydyw. O fy mhrofiad o wirfoddoli yn y Ganolfan MI FEDRAF, nid oes gan lawer o'r cleientiaid rydyn ni'n eu cefnogi ymdeimlad o gymuned neu berthyn mwyach, ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf cyffredin.

"Mae'r bobl sy'n dod i'r Canolfannau MI FEDRAF yn aml yn bryderus ac yn poeni. Gallwn wneud gwir wahaniaeth drwy wrando a rhoi amser iddynt ddweud eu cŵyn. Mae gweld y newid hwnnw mewn pobl pan maent ar eu hisaf, i bwynt lle maen nhw'n sefydlog a phan mae ganddynt gynllun i symud ymlaen yn anhygoel.

Dywed Shannon bod ei rôl newydd fel Goruchwyliwr Canolfan MI FEDRAF wedi rhoi synnwyr o hunanwerth iddi sy'n ei helpu i reoli ei anawsterau iechyd meddwl yn well.

"Mae wedi bod yn brofiad newid bywyd ac mae'n deimlad gwych cael fy ngwerthfawrogi am fy mhrofiad personol. Mae wedi fy ysgogi i ymdrechu’n well, gweithio fy ffordd i fyny, a sicrhau nad yw eraill yn mynd drwy’r hyn yr es i drwyddo.

“Mae unigrwydd yn lladdwr mawr ym maes iechyd meddwl felly gall darparu’r ymdeimlad hwnnw o gymuned wneud gwyrthiau.”

Mae Canolfannau MI FEDRAF wedi cael eu cyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n cael argyfwng iechyd meddwl.

Fel Byrddau Iechyd eraill ar draws Cymru, mae BIPBC ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gall ddarparu gwasanaethau'n wahanol er mwyn bodloni galw cynyddol am gefnogaeth iechyd meddwl.

Yn dilyn llwyddiant y broses o gyflwyno Canolfannau MI FEDRAF yn y tri phrif ysbyty yng Ngogledd Cymru, mae cefnogaeth MI FEDRAF ar fin cael ei chyflwyno mewn lleoliadau cymuned ac mewn Meddygfeydd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau BIPBC:

"Mae Shannon yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac mae ei stori'n dangos yr effaith fawr mae Canolfannau M IFEDRAF yn ei gael ar bobl pan maent ei angen fwyaf.

"Er mai nod y Canolfannau MI FEDRAF yn ein Hadrannau Achosion Brys yw helpu pobl mewn argyfwng, bydd y Canolfannau MI FEDRAF Cymuned a gwasanaethau Gofal Cychwynnol MI FEDRAF yn canolbwyntio ar ei wneud yn haws i bobl gael mynediad at yr angen cynnar heb gyfeiriad neu apwyntiad.

"Hoffem glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi'r gwaith pwysig hwn."