Neidio i'r prif gynnwy

Mam o Brestatyn yn croesawu cronfa newydd i ddarparu prostheteg chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru

Mae disgwyl i ferch bum mlwydd oed o Brestatyn, y cafodd dau o'i haelodau eu tynnu i ffwrdd ar ôl ei phenblwydd cyntaf, gael budd o gyllid newydd ar gyfer prostheteg chwaraeon.

Cafodd Elizabeth Roberts ddiagnosis hemimelia ffibwlar, sef nam geni lle mae rhan o'r asgwrn ffibiwlar neu'r asgwrn i gyd ar goll, tra'r oedd yn dal i fod yn y groth. Mae'r cyflwr yn anhwylder anghyffredin iawn, ac ar y ddwy ochr, mae'n digwydd yn achos 1 ym mhob miliwn o enedigaethau'n unig.

Cafodd y ferch fach ei geni gydag esgyrn ar goll yn ei choesau ac ar ôl i ddau o'i haelodau gael eu tynnu i ffwrdd, cafodd goesau prosthetig gan y Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd yng Ngwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Wrecsam.

Dywedodd ei mam, Rebecca Roberts: “Mae heriau wedi codi gyda'r brostheteg bresennol, maen nhw'n eithaf trwm ac anhyblyg.

“Maen nhw'n atal Elizabeth rhag rhedeg o gwmpas ar y cae chwarae gyda'i ffrindiau ac maen nhw'n golygu ei bod hi ychydig yn arafach na phawb arall."

Dywedodd Rebecca, a gyflwynodd ddeiseb i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i ddarparu prostheteg chwaraeon ar gyfer plant, ei bod yn hynod hapus bod cronfa newydd ar gael i ariannu'r offer arbenigol yma.

Bydd y cyllid, sy’n cynnwys £417,000 y flwyddyn, yn darparu staff ac adnoddau ychwanegol mewn tair canolfan arbenigol yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, lle mae modd asesu plant a phobl ifanc o dan 25 oed a darparu prostheteg i redeg a nofio ar eu cyfer. Bydd y gronfa'n agor o fis Ebrill y flwyddyn nesaf a gall plant a phobl ifanc drafod hyn yn eu hasesiad rheolaidd newydd ar gyfer eu prosthesisau.

“Bydd y brostheteg chwaraeon yma'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'm merch a phobl eraill sydd wedi colli aelodau corfforol ledled Cymru.

“Fel teulu, rydym ni'n hynod falch, mae'r brostheteg yma wedi'i chynllunio i'w gwneud yn haws rhedeg ac maen nhw'n ysgafnach o lawer hefyd.

“Mae hi wrth ei bodd yn cefnogi ei thad pan fydd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau rhedeg felly'r flwyddyn nesaf, efallai bydd hi'n gallu rhedeg rhywfaint o'r ffordd gydag o hefyd!", ychwanegodd Rebecca.

Mae Elizabeth wedi bod o dan ofal y Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd ers iddi fod yn 15 mis oed a dywed Rebecca ei bod hi a'i theulu'n hynod ddiolchgar am y gofal maent wedi'i dderbyn.

Dywedodd: “Mae'r Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd wedi bod yn anhygoel gydag Elizabeth, maen nhw wedi bod gyda ni o'r cychwyn.

“Maen nhw wastad wedi ceisio gwneud pethau mor rhwydd â phosibl a phan oedd Elizabeth yn cael anhawster, mi aethon nhw allan o'u ffordd i gael prostheteg binc llachar ac roedd hi wrth ei bodd ac roedd yn gwneud cymaint o wahaniaeth iddi.

“Mae'r tîm yma wir yn dangos y GIG ar ei orau."

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: “Rydym ni eisiau i bob un o'n plant a phobl ifanc gael ffordd o fyw egnïol. Bydd y gronfa newydd hon yn cynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc anabl i fod yn fwy egnïol. Rydw i'n gobeithio y bydd pawb sy'n gymwys yn gwneud cais i'r gronfa ac yn mwynhau buddion ffordd o fyw egnïol."

Dywedodd Rachel Malcolm, Uwch Brosthetydd: “‘Rydym ni wedi cyffroi'n lân i gael y cyfle, trwy'r cyllid newydd hwn, i agor drysau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn gobeithio amdano ers cryn amser, yn enwedig ar ôl i gyllid tebyg gael ei gyhoeddi yn Lloegr yn 2016.

“Mae'n wych gwybod bod y cyllid yma'n cynorthwyo, nid yn unig i ddarparu'r aelodau prosthetig ond hefyd y staff a'r arbenigedd sydd eu hangen i'w cynhyrchu a'u gosod a hynny ar sail barhaus i unigolion hyd at 25 oed.

Mae plant a phobl ifanc wrth natur yn egnïol, felly mae rhedeg a bod yn weithgar yn rhan annatod o ddatblygiad  plant, ac felly, rydym yn falch o allu hwyluso hyn a'u hannog i ddod yn oedolion heini a gweithgar.

“Fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n bwysig i ni allu rhoi'r offer gorau posibl i'n cleifion fod yn nhw eu hunain, cymryd rhan mewn bywyd o ddydd i ddydd ac i gyflawni eu nodau. Bydd y cyllid newydd yma a'r gallu i ddatblygu'r gwasanaeth trwyddo, yn ein helpu i gyflawni hyn i'n cleifion."