Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwilwyr yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn cymryd rhan fel ymchwilwyr mewn treial brechu dynol cyntaf o'i fath yn y DU

16/02/2024

Mae ymchwilwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno yn eu treial brechu dynol cyntaf yn y DU yn y frwydr yn erbyn brech y mpox (a elwid gynt yn frech y mwncïod).

Mae Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRF) yn cynnal y treial clinigol, a noddir gan Moderna, ar gyfer brechlynnau ymchwiliol sydd â'r nod o frwydro yn erbyn mpox a'r ffliw.

Mae’r astudiaeth mpox, a elwir yn Treial mPower, yn helpu ymchwilwyr i ddysgu mwy am frechlyn ymchwiliadol o’r enw Mrna-1769 sy’n cael ei brofi i weld a yw’n gallu atal salwch o’r feirws mpox. Nod Treial mPower yw astudio'r proffil diogelwch a'r ymateb imiwnedd i mRNA-1769.

Ar hyn o bryd, mae’r Treial mPower, sy’n cael ei gynnal yn NWCRF ger Ysbyty Maelor Wrecsam, yn cofrestru oedolion rhwng 18 a 49 oed sydd mewn iechyd da yn gyffredinol i gymryd rhan yn y treial brechlyn ymchwiliadol.

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Cyfarwyddwr NWCRF a Meddyg Ymgynghorol mewn ffarmacoleg glinigol a therapiwteg, meddygaeth fewnol: “Mae gan feirysau byd-eang y potensial i newid, gan achosi derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau ledled y byd. Dyna pam ei bod yn bwysig paratoi ar gyfer achosion drwy astudio brechlynnau ymchwiliadol.”

Mae gan y cyfleuster ymchwil gronfa ddata o’r enw Consent 4 Consent (C4C), sef cronfa ddata fewnol ddiogel o gleifion a gwirfoddolwyr sy’n dymuno cael eu hystyried fel cyfranogwyr posibl ar gyfer prosiectau ymchwil yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Osanlou: “Rydym yn annog gwirfoddolwyr a chleifion i gofrestru i gymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil. Mae bron pob prosiect ymchwil angen help gwirfoddolwyr er mwyn canfod a yw’r brechlynnau ymchwiliadol yn ddiogel ac yn effeithiol.

“Mae hyn yn hollol wirfoddol a gallwch ddewis i gael eich tynnu oddi ar y gronfa ddata ar unrhyw adeg. Bydd rhai astudiaethau hefyd yn ad-dalu costau gwirfoddolwyr am unrhyw deithio ac anghyfleustra."

Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn un o’r treialon ymchwil hyn, neu os ydych yn dymuno ymuno â’r gronfa ddata ymchwil, cysylltwch â’r tîm ymchwil NWCRF ar 03000 858032 neu gallwch e-bostio BCU.NWCRFParticipant@wales.nhs.uk.