Neidio i'r prif gynnwy

Caewch eich llygaid am y feddyginiaeth ryfeddol nad yw'n costio dim

Pe dywedwyd wrthych fod un bilsen ddyddiol, a allai helpu i'ch amddiffyn rhag diabetes, problemau'r galon, llid, problemau iechyd meddwl a cholli cof, heb unrhyw sgîl-effeithiau, a fyddech yn ei chymryd?

Os mai 'byddwn' oedd eich ateb, yna dyma newyddion da i chi, mae'n bodoli a does dim rhaid i chi gymryd pilsen hyd yn oed. Cwsg yw’r enw arno a gallai eich amddiffyn rhag salwch ac arbed apwyntiadau di-ri, ymchwiliadau a llawer o arian i’r GIG pe byddai pob un ohonom yn cael digon ohono.

Mae'n debyg fod y rhodd hyfryd o gwsg yn cael ei gymryd yn ganiataol i raddau helaeth gan y rhai sy'n cael digon ohono. Fodd bynnag, gall fod yn hunllef byw i'r rhai nad ydynt.

Amcangyfrifwyd nad yw hyd at 20% o boblogaeth oedolion y DU yn cael digon o gwsg – fel arfer rhwng saith a naw awr bob nos. Mae hynny tua 112,000 o bobl yng Ngogledd Cymru.

Mae hyn yn fwy na phoblogaethau cyfunol Bangor, Caernarfon, Rhyl, Prestatyn, Cei Connah a Llandudno, ddim yn cysgu’n ddigon hir yn rheolaidd.

Pe bai’r holl bobl hyn yn colli dim ond awr o gwsg y noson, byddai’n cyfateb i bron i 41m o oriau o gwsg na chysgwyd ar draws Gogledd Cymru bob blwyddyn – neu golli mwy na 5.1m o nosweithiau iawn o gwsg, bob blwyddyn.

Mae arolygon amrywiol eraill yn honni bod hyd at dri chwarter ohonom yn dioddef o ansawdd cwsg gwael, sy'n golygu cwsg anesmwyth neu aflonydd. Gall hyn fod yr un mor wanychol â pheidio â chael digon o gwsg - weithiau'n waeth. Nid yw'n fater i'w gymryd yn ysgafn i’r rhai yr effeithir arnynt a gall olygu goblygiadau iechyd difrifol.

Felly, i nodi Diwrnod Cwsg y Byd ar 17 Mawrth, rydym wedi llunio crynodeb o nodweddion iechyd sy'n gysylltiedig â chwsg.

Gobeithiwn y byddant yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i chi o bwysigrwydd cwsg, gobeithio y byddant yn eich helpu i hepian yn fwy llwyddiannus ac yn arbed rhai teithiau diangen at eich meddyg teulu neu'r ysbyty.

Cliciwch ar y penawdau pwnc isod i gael dysgu am: