Neidio i'r prif gynnwy

Diagnosis cyflym gan glinig arbenigol yn tawelu ofnau canser mam i bedwar o blant

Mae claf a oedd yn ofni ei bod yn “ticio rhai o’r blychau ar gyfer diagnosis o ganser” wedi canmol gwaith Clinig Diagnosis Cyflym y Bwrdd Iechyd am ddarganfod beth oedd yn bod arni yn gyflym.

Mae Laura Jones o Lanelwy yn dioddef o ddiabetes Math 1. Penderfynodd ymweld â’i meddyg teulu ar ôl i’w gŵr wneud sylw ei bod wedi colli pwysau dros gyfnod o fis y llynedd.

Roedd Laura a oedd wedi gostwng dau faint mewn dillad, yn poeni ei bod efallai, yn gwneud gormod yn ei swydd newydd yn gweithio i gwmni hamdden mawr ac yn gofalu am ei phedwar o blant.

Ond, wrth i’w meddyg ei holi, dechreuodd boeni bod rheswm mwy sinistr dros golli pwysau a chafodd ei chyfeirio ar unwaith at y Clinig Diagnosis Cyflym yn Ysbyty Glan Clwyd.

Clinigau Diagnosis Cyflym - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd: “Roedd hynny ar ddydd Iau a chefais apwyntiad yn y clinig yr wythnos wedyn. Roedd yn arbennig o gyflym.”

Ymhen pythefnos, roedd Laura wedi bod i weld ei meddyg teulu, wedi bod i’r clinig ac wedi cael ei sgan MRI cyntaf. Dangosodd y sgan bod ganddi ddau fàs yn ei iau.

“Rwy’n meddwl fy mod i’n ticio rhai o’r blychau ar gyfer canser, o bosibl,” eglurodd. “Roeddwn i’n disgwyl eu clywed yn dweud ‘Arafa, rwyt ti’n gwneud gormod, edrych ar ôl dy hun’.

“Mewn gwirionedd, dydych chi ddim yn ei ddisgwyl. Rydych chi’n gwrthod ei dderbyn ar y dechrau. Rydych chi’n meddwl, ‘na, dydy hi ddim yn bosibl’.

“Roeddwn i wir yn meddwl fy mod am gael sgan ac y bydden nhw’n dweud ‘Mae’n rhaid i ti edrych ar ôl y diabetes yn well’. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn meddwl mai canser oedd o.”

Mae Laura’n dweud bod y staff yn “hyfryd” a’u bod wedi sgwrsio gyda hi am y broses gyfan ond cyfaddefodd ei bod yn teimlo’i bod “mewn swigen” ar ôl gweld y meddyg.

“Cefais lwyth o wybodaeth cyn gadael y clinig a rhoddodd Nicky Grayston, y nyrs glinigol arbenigol yn y clinig ei rhif ffôn i mi a dweud wrthyf i am ffonio unrhyw bryd.”

“Fe wnes i feddwl ‘O, iawn’. Cyrhaeddais y car a ffonio fy ngŵr a ddaeth adref yn syth. Roedd y cyfan braidd yn niwlog, a dweud y gwir.” 

'Roedd fy ngŵr yn meddwl fy mod i'n marw' – sut gwnaeth Clinig Diagnosis Cyflym helpu nain i drechu canser - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae’r clinig hanner diwrnod a gynhelir bob wythnos, yn asesu cleifion sydd wedi mynd i leoliad gofal sylfaenol yn cwyno am symptomau annelwig ac y mae eu meddyg teulu yn amau bod risg resymol o ganser. Bydd mwyafrif y cleifion yn cael sgan CT ar eu brest, abdomen a phelfis.

Mae tua 50% o gleifion sy’n cael diagnosis o ganser yn dioddef y symptomau annelwig hyn. Gall y rhain gynnwys colli pwysau, colli archwaeth am fwyd, poen amhenodol yn yr abdomen a blinder.

Mae tua 23% o’r 220 o gleifion a gyfeirwyd at y clinig ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2023, yn cael eu cyfeirio at lwybrau canser.

Yn y pendraw, tua 21% o’r cleifion hynny’n sy’n cael eu cyfeirio at lwybrau canser sy’n cael diagnosis o ganser, sef 5% yn unig o’r holl gleifion sy’n cael eu cyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym.

Mae’n bosibl bod gan lawer o’r cleifion sy’n cael eu cyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym abnormaleddau amhenodol mewn profion gwaed, megis yr iau’n gweithredu’n annormal neu thrombocytosis - cyflwr a achosir gan ormod o blatennau ceulo gwaed sy’n gallu bod yn arwydd o afiechyd neu haint sylfaenol.

Nod y clinig yw rhoi diagnosis o ganser, diagnosis nad yw’n ganser (er y gall fod yn ddifrifol), neu sicrwydd o ddiagnosis nad yw’n ddifrifol. Bydd ganddynt hefyd gynllun rheoli lle bo hynny’n briodol.

Mae 81 o gleifion wedi cael eu rhyddhau gan y gwasaneth ers iddo dechrau a chyfeirwyd cleifion eraill at nifer fawr o arbenigeddau heb fod yn arbenigeddau canser. Mae’r rhain yn cynnwys y clinig esgyrn, clinig y frest, y clinig cof, deietegydd, clinig nodiwlau’r ysgyfaint, therapi iath a lleferydd, y tîm rhoi’r gorau i ysmygu, clinig clefyd llid y coluddyn, gynaecoleg a chardioleg. 

Ymchwilwyr yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn cymryd rhan fel ymchwilwyr mewn treial brechu dynol cyntaf o'i fath yn y DU - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Yn ffodus, ac yn debyg i’r rhan fwyaf o gleifion sy’n mynychu’r Clinig Diagnosis Cyflym, nid symptomau canser oedd ar Laura. Datgelodd profion pellach fod ganddi ddau grawniad ar ei iau a chanmolodd Laura gyflymder y gwasanaeth wrth dawelu ei meddwl ar adeg a oedd yn llawn straen.

Dywedodd: “Rydw I’n iawn erbyn hyn. Mae’r clinig yn rhoi sicrwydd i chi. Mae’n rhoi cefnogaeth yn ogystal â bod yn gyflym. Roedd Nicky yn wych, roedd hi bob amser ar y ffôn a bob amser ar gael pan oedd gen i unrhyw gwestiynau.

“Roedd hi’n braf gallu cyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym os oedd angen gwybod rhywbeth arnaf i. Roedden nhw’n chwilio am yr ateb ar fy rhan.

“Roeddwn i wir yn meddwl ei fod yn gysylltiedig â diabetes a phan ddarganfuwyd rhywbeth, roeddwn i’n meddwl ‘Iawn, mi fyddaf i’n gorfod mynd ar restr aros’. Mae’r cyfryngau yn rhoi darlun bod yr aros yn faith, ond roedd mor gyflym.

“Pe bawn i wedi cael newyddion drwg, rydw i’n teimlo y byddwn i wedi dechrau’r driniaeth yn gynt. Gall roi mwy o amser i rywun o fy oedran i ac yn fy sefyllfa i, gyda phedwar o blant.”

Dywedodd Nicky Grayston, nyrs glinigol arbenigol y Clinig Diagnosis Cyflym: “Mae’r Clinig Diagnosis Cyflym yn wasanaeth gwerthfawr i gleifion sydd â symptomau annelwig a allai fod â malaenedd sylfaenol neu ganser.

“Mae diagnosis cynnar o ganser yn hollbwysig, ond mae’r Clinig Diagnosis Cyflym yn cynnig cymaint mwy na hynny. Mae ein cleifion yn dweud wrthym ni fod y gwasanaeth cyflym yn tawelu eu meddwl, yn rhoi sicrwydd ac yn lleihau straen, gofid a phryder pan gânt ddiagnosis o ganser.

“Os nad yw’n ganser, mae’r sicrwydd hwnnw hefyd yn cael ei werthfawrogi – fel y mae stori Laura’n ei ddangos mor glir.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)