Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn cael ei gyflwyno ar ail safle yng Nghymru

Cleifion yng Nghonwy yw'r ail gymuned yng Nghymru i ddefnyddio'r gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) newydd cyffrous.

Mae presgripsiynau electronig bellach yn cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa leol, sef Boots yn Llanfairfechan a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr.

Mae EPS yn caniatáu i feddygon teulu a phresgripsiynwyr gofal iechyd eraill anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol a ddewisir gan y claf.

Nid oes rhaid i glinigwyr bellach argraffu a llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn ar bapur gwyrdd gyfarwydd, sydd wedi’i defnyddio i ddosbarthu meddyginiaethau yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Nid oes angen ychwaith i gleifion na staff fferyllfa gasglu presgripsiynau o'r feddygfa - yn lle hynny, mae'r meddyg teulu yn eu hanfon yn uniongyrchol i'r fferyllfa trwy gyfrifiadur.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Uwch Berchennog Cyfrifol y Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol: “Rwy’n hynod falch ein bod bellach wedi mynd yn fyw ar ein hail safle yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ac yn drawsnewidiad digidol enfawr. Mae profi’r gwasanaeth mewn lleoliad byw yn gam hollbwysig ac yn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion.

“Mae presgripsiynau electronig o fudd gwirioneddol i staff iechyd ac i’r gymuned. Maen nhw’n haws ac yn fwy diogel a, gyda 40 miliwn o bresgripsiynau papur yn cael eu hargraffu bob blwyddyn yng Nghymru, maen nhw’n dda i’r amgylchedd hefyd.”

Dywedodd Sarah Michaelson, Rheolwr Meddygfa Plas Menai: “Roeddem yn gyffrous i gael ein dewis fel yr ail safle ar gyfer y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru. Mae llawer o waith caled wedi’i wneud y tu ôl i’r llenni, ac mae’r tîm yma yn y practis wedi bod yn gweithio ar y cyd ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i sicrhau gweithrediad esmwyth y gwasanaeth.

“Gydag ychydig o addasiadau a phroblemau i'w datrys, roedd symud i brofi byw yn llwyddiant ar y cyfan. Rydym nawr yn edrych ymlaen at fanteision llawn EPS. Mae’r manteision yn cynnwys gwasanaeth diffwdan i gleifion gan y byddwn nawr yn gallu dilyn eu presgripsiwn trwy gydol ei daith electronig. Diolch i’n staff, y timau yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC), a chyflenwr y system EMIS am eu cefnogaeth drwy gydol y broses.”

Dywedodd Lee Browne, Uwcharolygydd Camella Healthcare Ltd, sy’n berchen ar Fferyllfa Gwynan Edwards: “Yn dilyn ein cysylltiad â’r prawf cyntaf o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, yn ein Fferyllfa Ffordd Wellington yn y Rhyl, rydym bellach yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Meddygfa Plas Menai a Boots.

“Mae ein tîm wedi gweithio’n agos gyda’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) a Titan PMR (Invatech) i sicrhau ein bod yn cadw at amserlen i gyrraedd y cam hwn. Mae’r profiad cyfan wedi dangos y gall cydweithio rhwng gwahanol sefydliadau yng Nghymru weithio’n eithriadol o dda er budd cleifion.

“Mae gennym ni eisoes berthynas dda gyda’r feddygfa a bydd EPS yn helpu i wella hyn. O ystyried daearyddiaeth yr ardal, bydd trosglwyddo electronig yn golygu gwell profiad i gleifion ym Mhenmaenmawr a’r pentrefi cyfagos.”

Cafodd presgripsiynau electronig eu lansio gyntaf yng Nghymru yn y Rhyl ym mis Tachwedd y llynedd. Cynhaliwyd cyfnod profi helaeth rhwng Canolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington yn y dref. Mae adborth cynnar gan staff yn gadarnhaol, gyda chleifion yn gwerthfawrogi rhwyddineb a hwylustod y gwasanaeth.

Bellach mae EPS yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol fesul cam ledled Cymru, a hynny mor gyflym a diogel â phosibl.

Unwaith y bydd fferyllfa yn gallu cynnig rhagnodi electronig, mae cleifion yn cofrestru trwy ddweud wrth staff yn y fferyllfa neu’r practis meddyg teulu eu bod am ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig. Nid oes angen i'r claf ddefnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar neu liniadur gan y bydd staff yn gallu trefnu hyn ar eich rhan.

Mae darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, sydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dwyn ynghyd y rhaglenni a’r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull presgripsiynu digidol llawn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru i gael ein cylchlythyr, ewch i https://igdc.gig.cymru/systemau-a-gwasanaethau/portffolio-trawsnewid-gweinyddu-meddyginiaethaun-ddigidol/.