Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau mamolaeth i ailddechrau cynnig genedigaethau yn y cartref ar draws Gogledd Cymru

11/03/2024

Mae gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ailddechrau cynnig genedigaethau yn y cartref. 

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i adfer y gwasanaeth ar ôl iddo gael ei ddirwyn i ben dros dro oherwydd pwysau parhaus ar y system. 

Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched: "Ar ôl adolygiad manwl, mae'n bleser gen i gadarnhau bod ein Gwasanaeth Geni yn y Cartref yn cael ei ailgyflwyno yng Ngogledd Cymru.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn WAST, a bydd ein bydwragedd cymunedol yn rhoi arweiniad i ddarpar famau i'w cynorthwyo o ran gwneud y dewisiadau geni cywir iddyn nhw a'u babi."

Dywedodd Bethan Jones, Hyrwyddwr Diogelwch Lleol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer Mamolaeth a Gofal y Newydd-anedig: "Rydym yn falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ailddechrau ei gynnig rhagweithiol yn ymwneud â merched a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn rhanbarth y bwrdd iechyd. 

"Fel sefydliad, byddwn yn parhau i gefnogi dewisiadau geni’r sawl sy'n awyddus i roi geni gartref ac i roi'r hyder i bawb dan sylw bod ein gwasanaethau ar gael os bydd angen amdanynt. 

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod ailgyflwyno gwasanaethau geni yn y cartref yn brofiad positif a diogel i ferched, pobl sy'n rhoi geni, eu babanod a'u teuluoedd." 

Os ydych yn disgwyl babi a bod gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch genedigaethau yn y cartref, cysylltwch â'ch tîm bydwreigiaeth gymunedol. Byddant yn rhoi cymorth, yn ateb eich cwestiynau, ac yn eich arwain trwy'ch dewisiadau geni er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi a'ch babi. 

Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael ar adran Gwasanaethau Mamolaeth ein gwefan: Ble i roi geni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru) 

 

Storïau cleifion sydd wedi rhoi genedigaeth yn y catref