Neidio i'r prif gynnwy

Ateb cydgysylltiedig i ofal cleifion yn achub bywyd goroeswr strôc

13.03.2024

I rai, mae delio â chyrff swyddogol yn rhywbeth brawychus pan fo arnynt angen cymorth. Mae nifer sylweddol o bobl naill ai’n methu, neu ddim eisiau, ymgysylltu â nhw.

O’u gadael heb eu gwirio, gall materion cymdeithasol megis tai gwael, ynysigrwydd cymdeithasol neu bryderon ariannol arwain at broblemau iechyd a llesiant. Yn aml, wrth wynebu anawsterau o’r fath, cyswllt cyntaf unigolyn gydag unrhyw gorff swyddogol yw pan fyddant yn mynd yn sâl.

Tra gall gwasanaethau iechyd drin symptomau iechyd corfforol neu feddyliol, gall rhai pobl ddechrau cael cylch o ymweliadau ailadroddus at eu Meddyg Teulu neu’r ysbyty os nad eir i’r afael â gwraidd achosion eu problemau.

Mewn ymgais i dorri’r cylch hwnnw, mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol yn ein rhanbarth wedi arwain y ffordd yn genedlaethol ar bresgripsiynu cymdeithasol, sy’n ceisio mynd i’r afael gydag achosion sylfaenol materion iechyd a llesiant.

Dywedodd rheolwr prosiect BIPBC Julie Marsh: “Nid yw presgripsiynu cymdeithasol yn theori newydd ond yn aml nid yw’n uchel ar agendâu pobl, gan fod yr holl wasanaethau o dan bwysau difrifol.

“Mae’n cymryd ychydig mwy o waith ond, yn y tymor hir, mae’n lleihau’r baich ar wasanaethau megis y Bwrdd Iechyd ac, yn bwysicach,  yn rhoi gwell ansawdd bywyd i bobl drwy gymorth wedi ei dargedu. ”

Mae model cymorth arloesol yn helpu mwy o famau a babanod Ynys Môn i fwydo ar y fron yn hirach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae’r ymagwedd hefyd yn ffitio gydag amcanion y Bwrdd Iechyd o ddarparu mwy o ofal ataliol o fewn cymunedau pobl ac atal materion iechyd rhag gwaethygu.

Dangosodd un o sawl stori am lwyddiant y prosiect sut y bu i oroeswr strôc oresgyn materion iechyd ac arian gyda chymorth ei lywiwr cymunedol.  Fel nad oes modd i eraill ei adnabod, rydym wedi ei alw’n “Albert” (nid ei enw cywir).

Roedd Albert yn unigolyn balch a gwrthodai dderbyn cymorth na chyngor gan staff ysbyty. O ganlyniad, gwaethygodd ei iechyd.

Wedi cael sgwrs Yr Hyn sy’n Bwysig gyda’i lywiwr cymunedol, daeth yn amlwg iddo ynysu ei hun heblaw am ymweliadau achlysurol gan ei ferch. Datgelodd hefyd ei fod mewn anhawster ariannol.

Roedd Albert yn wynebu argyfwng a datgelodd ymhellach ei fod yn cael trafferth o gwmpas y cartref a’i fod wedi’i ynysu’n gymdeithasol, prin yn gweld neb o ddydd i ddydd. Roedd wedi torri ei asennau yn ceisio mynd o gwmpas ac ar achlysur arall, roedd wedi llosgi ei hun tra’n ceisio coginio pryd o fwyd. Roedd ganddo hefyd haint ar y frest.

Mewn sgwrs bellach, gydag ymarferydd gofal cymdeithasol gwadd a’i lywiwr cymunedol, aeth Albert yn emosiynol a datgelodd nad oedd wedi bwyta’n iawn ers misoedd oherwydd bod y rhan fwyaf o’i arian yn mynd tuag at rentu ei fflat.  Roedd ei hwyliau yn hynod o isel.

Gwasanaethau mamolaeth i ailddechrau cynnig genedigaethau yn y cartref ar draws Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Gyda chymorth gan ei lywiwr cymunedol ymwelodd â Chyngor ar Bopeth, a ganfu nad oedd yn cael digon o fudd-daliadau. Fe wnaethon nhw hefyd ei gyfeirio at gynllun rhannu bwyd lleol lle gallai fanteisio ar ffrwythau a llysiau ffres.

Yn araf, dros gyfnod o dri mis, magodd Albert hyder a mynychodd gyfarfodydd Talking Points, lle’r adeiladodd berthynas gyda’i lywiwr cymunedol. Gwelodd ei Feddyg Teulu, a wnaeth drin yr haint ar ei frest, a datgelodd ei fod i gael llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon a gosod rheolydd calon – ond ei fod yn parhau i fethu’r gwiriad cyn-llawdriniaeth.

Oherwydd ei fod wedi dechrau bwyta’n iawn, fe basiodd y gwiriad cyn-llawdriniaeth nesaf a chafodd lawdriniaeth lwyddiannus. 

Yna derbyniodd y newyddion fod ei fudd-daliadau anabledd wedi eu cynyddu yn unol â’i hawliau ynghyd ag ôl-daliad sylweddol, a wnaeth ganiatáu iddo glirio ei ddyledion gyda darparwr ynni.

Dywedodd Albert: “Fe wnaeth mynd wrth fy mhwysau fy hun, ganiatáu i mi adeiladu ymddiriedaeth gyda’m llywiwr cymunedol.  Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd siarad am yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn fy mywyd ond rydw i’n teimlo’n hyderus am fywyd erbyn hyn.

“Fe wnaeth cerdded i mewn i’r llyfrgell yna a chael y cyfarfod cyntaf yna gyda’m llywiwr cymunedol achub fy mywyd.”

Rhieni yn dwyn sylw at gyflwr prin eu mab i godi ymwybyddiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

O dan yr enw Gogledd Cymru Iach (Well North Wales), mae’r cynllun yn cynorthwyo pobl gyda materion iechyd ac yn ceisio dad-wneud a mynd i’r afael â’r problemau sy’n achosi pryderon iechyd a llesiant.

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Presgribsiynu Cymdeithasol ar 14 Mawrth, mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnal arddangosfa o’r gwaith a wnaed yng Nghlwb Rygbi’r Rhyl, ar gyfer grwpiau cymunedol, elusennau, sefydliadau tai a’r sector gyhoeddus.

Gobeithia Julie Marsh y bydd mwy o sefydliadau’n ymuno â’r cynllun, gan roi’r siawns i fwy o bobl gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

“Mae’n wir nad yw rhai pobl eisiau ymgysylltu gyda gwasanaethau oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld pa fantais fydd hyn iddyn nhw,” meddai. “Mae eraill yn teimlo eu bod wedi eu llethu a ddim yn gwybod lle i droi am gymorth.

“Weithiau gall dim ond sgwrs gyda’r Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol ddat-gloi’r rhesymau tu ôl i heriau iechyd neu lesiant rhywun. Gall y Meddyg Teulu wedyn gyfeirio eu claf at lywiwr cymunedol arbenigol, fydd yn gweithio gyda’r unigolyn i geisio dileu eu rhwystrau i fyw bywyd o ansawdd gwell.”

Unwaith mae llywwyr cymunedol wedi cael sgwrs “Yr Hyn sy’n Bwysig” gyda rhywun, daw darlun llawnach o’u hamgylchiadau i’r amlwg. Yna nodir sefydliadau partner i helpu i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol, a allai fod yn effeithio ar ansawdd bywyd unigolyn.

Ychwanegodd Brian Laing, BIPBC: “Trwy weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill a phartneriaid yn y sector elusennol, gallwn fynd i’r afael mewn gwirionedd ag achosion sylfaenol iechyd a llesiant gwael. Mae’n ymwneud â gwrando ar bobl a mynd i’r afael â’u materion mewn ffordd gydgysylltiedig.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)