Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi enw ar gyfer Uned Mamau a Babanod newydd

Mae enw ar gyfer uned iechyd meddwl rhanbarthol newydd i Famau a Babanod wedi cael ei gyhoeddi.

 

Dechreuodd gwaith adeiladu paratoadol ar yr adeilad unllawr gwerth £7.5m yn swyddogol ym mis Tachwedd a dyma’r cyntaf o’i fath ar draws Sir Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru.

 

Cafodd yr enw ‘Llety Seren’ ei ddewis gan Famau sydd wedi profi salwch meddwl mamol ac mae'n cydnabod y bartneriaeth drawsffiniol newydd gyda GIG Cymru.

 

Dywedodd Nia Foulkes, arbenigwr trwy brofiad: “Roedd yn bwysig i’r grŵp ddewis enw a oedd yn arwydd o obaith a phositifrwydd, ond hefyd rhywbeth a oedd yn groesawgar i deuluoedd ble bynnag y maent yn byw. Mae ‘Seren’ yn gyfieithiad Cymraeg o’r gair Saesneg ‘star’ ac roedd ‘llety’ yn teimlo’n gartrefol ac nid yn glinigol o gwbl, ac roeddem yn meddwl ei fod yn enw perffaith.

 

Ychwanegodd Sarah Dearden: “Ar ôl cael fy nerbyn i uned a oedd yn bell iawn oddi cartref yn y gorffennol, mae'n arbennig o gyffrous gweld yr uned newydd fel y mae heddiw a gwybod bod ein syniadau a'n dyluniadau'n cael eu rhoi ar waith. Mae unedau fel y rhain yn cael effaith enfawr drwy gadw babanod a’u mamau gyda’i gilydd yn ystod adeg dyngedfennol.”

 

Mae’r uned yn ganlyniad i bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Partneriaeth Swydd Gaer a Chilgwri (CWP), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Mersi, GIG Lloegr a GIG Cymru a byddwn yn gweld canolfan hyfforddi segur yn cael ei thrawsnewid yn uned arbenigol, wyth gwely, newydd ar gyfer mamau a babanod amenedigol a'u teuluoedd. Ar ôl agor, bydd yr uned yn gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol rhanbarthol sydd eisoes yn gofalu am filoedd o ferched bob blwyddyn.

 

Cafodd yr achlysur ei nodi gyda seremoni arbennig yn torri tir newydd. Daeth mamau ar draws y rhanbarth ynghyd i ymuno ag aelodau o’r timau clinigol, adeiladu a phrosiectau i osod y rhaw swyddogol cyntaf yn y ddaear.

Mae gwaith paratoadol ar y prosiect yn mynd rhagddo’n dda gyda chytuno ar y cynlluniau allanol a mewnol a fydd yn galluogi gwaith adeiladu a recriwtio ar gyfer y ganolfan newydd i ddechrau'n fuan.

 

Dywedodd Suzanne Edwards, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CWP a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol: “Bydd yr uned newydd yn cefnogi mamau newydd a merched beichiog mewn amgylchedd therapiwtig sydd wedi cael ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl mamol, megis iselder ôl-enedigol, seicosis neu ailwaelu cyflwr iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli.

 

“Amcangyfrifir bod un ferch ym mhob pedair yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y 24 mis cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Er mai dim ond nifer fach o ferched a fydd angen cael eu derbyn i uned arbenigol fel Llety Seren, rwy’n falch y byddwn yn gallu cynnig y gofal hwn yn agosach at adref, yn ogystal â’r miloedd o deuluoedd yr ydym yn eu gweld yn y gymuned bob blwyddyn.”

Dywedodd Dr Alberto Salmoiraghi, cyfarwyddwr meddygol ar gyfer Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym wrth ein boddau y bydd Llety Seren yn galluogi i ofal arbenigol o ansawdd uchel gael ei roi i famau newydd a merched beichiog ar draws Gogledd Cymru, Sir Gaer, Cilgwri a Glannau Mersi mewn amgylchedd pwrpasol sy’n canolbwyntio ar adfer.

“Ar hyn o bryd, caiff y cymorth arbenigol hyn ei gynnig i ferched o Ogledd Cymru mewn cyfleusterau sydd mor bell i ffwrdd â Manceinion, Chorley a Birmingham.”

“Mae merched o Ogledd Cymru sydd â phrofiad byw o salwch meddwl amenedigol wedi chwarae rôl ganolog wrth ddylunio’r gwasanaeth newydd hwn ac rydym yn falch iawn o weld fod hyn yn cael ei adlewyrchu yn enw’r uned. Rydym yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio gyda’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Partneriaeth Swydd Gaer a Chilgwri i gyflwyno’r uned hon y mae mawr ei hangen."

Unwaith y bydd ar agor, bydd Llety Seren yn gartref oddi cartref i ferched a’u babanod a bydd yn cynnwys meithrinfa, ystafell synhwyraidd a sawl lolfa i gefnogi amser tawel ac ymweliadau gan deulu. Bydd cael mynediad at fannau awyr agored yn ganolog i'r datblygiad gyda dwy ardd a llwybr cylchdaith addas ar gyfer pramiau, gyda theuluoedd yn elwa o fynediad agos at Barc Gwledig sef Countess Country Park.

 

Mae'r newyddion hefyd wedi cael ei groesawu gan yr elusen genedlaethol, Action on Postpartum Psychosis (APP), sydd wedi ymgyrchu dros gael mwy o fynediad at ofal iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Ychwanegodd Dr Jessica Heron, eu prif weithredwr: “Rydym wrth ein boddau o gael gweld cynnydd yn cael ei wneud. Bydd yr uned newydd yn golygu y bydd mamau newydd ar draws Gogledd Cymru, Sir Gaer a Glannau Mersi sydd â salwch ôl-enedigol difrifol yn cael gofal priodol ac yn cael cymorth gyda magu plant, heb orfod teithio ymhell o’u teuluoedd i ardaloedd eraill o’r DU neu’n canfod eu hunain mewn wardiau seiciatrig oedolion wedi'u gwahanu oddi wrth eu babanod newydd-anedig.”

 

Mae disgwyl i Lety Seren agor y gaeaf nesaf.