Mae tad, a welodd rai golygfeydd torcalonnus wrth weithio mewn ysbyty yng Ngogledd Cymru, wedi ysgrifennu disgrifiad personol a theimladwy o'i brofiadau.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd diweddaraf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol, yn cynnig cyngor a chymorth i bobl o bob oed trwy gyfrwng y rhif galw GIG 111 sefydledig.
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Brynteg, Wrecsam a'u rhieni, neu eu neiniau a'u teidiau wedi cymryd rhan mewn cwrs coginio arloesol a ddatblygwyd gan dîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog pobl ar draws Gogledd Cymru i gofrestru ar gyfer Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth o Hunan-Laddiad Fedra' i Weithio a ddatblygwyd gan ei weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
Bydd oedolion cymwys a phlant yn gallu cael brechiad rhag y ffliw yn rhad ac am ddim yn un o ganolfannau brechu torfol y Bwrdd Iechyd o ddydd Llun ymlaen.
Ar ôl i ffermwr godro syrthio wrth ofalu am ei wraig, credodd y byddai byth yn gadael yr ysbyty, tan iddo gael ei baru gyda thîm arloesol y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd John Read ei fod wedi bod yn ‘mynd o gwmpas ei bethau’ wrth wneud paned o de i’w wraig, Kathleen, yn eu cartref yn Brynford, pan syrthiodd ym mis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf.
Nod astudiaeth newydd a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yw cael gwell dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan ofalwyr teuluol pobl sy'n byw gyda dementia wrth ddarparu gofal personol.
Mae cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi apelio'n uniongyrchol at y cyhoedd i helpu i ddiogelu ysbytai acíwt y rhanbarth rhag heintiau diangen.
Mae arweinwyr Cyn-filwyr Cenedlaethol wedi llongyfarch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar ei ymrwymiad i wella gofal GIG ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog (AFC) ar draws Gogledd Cymru.
Fe wnaeth Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug gynnau goleuadau ei goeden atgofion Nadolig, er mwyn i bobl ddathlu a chofio anwyliaid a chleifion sydd wedi'n gadael ni.
Mae cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi diolch i aelodau'r cyhoedd am eu dealltwriaeth cyn gweithredu diwydiannol arfaethedig.
Mae Ap ffôn symudol cyntaf o’i fath wedi’i lansio i helpu i gefnogi merched beichiog gyda gwybodaeth ddibynadwy gan weithwyr proffesiynol y GIG y gallant ddibynnu arni.
Gwaith ymchwil yw’r unig ffordd o wella ein dealltwriaeth o salwch ac o ddatblygu gwell triniaethau, meddai ymchwilwyr sy’n edrych am bobl i ymuno â’u rhestr o wirfoddolwyr.
Bu cynnydd yn y dwymyn goch eleni. Yn y DU, cafwyd 1,512 o hysbysiadau o'r dwymyn goch rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2022, o gymharu â 948 yn ystod yr un cyfnod yn 2019.
Dathlodd cyn-filwr o Gorff Gwasanaethau Brenhinol y Fyddin ei ben-blwydd yn 100 oed yn Ysbyty Maelor Wrecsam ynghyd â'i deulu, ei gyd-filwyr a staff BIPBC.
Mae cleifion mewn uned iechyd meddwl ddiogel wedi bod yn gwneud ffrindiau â chŵn hysgi fel rhan o brosiect i helpu lleihau eu lefelau straen ac annog ffordd iach o fyw.
Pan fydd aelod o’r teulu yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, gall fod yn gyfnod pryderus i berthnasau, ac nid yw’n hawdd bob amser cael gwybodaeth amserol am gyflwr eu hanwyliaid, er gwaethaf ymdrechion gorau staff rheng flaen y GIG sydd dan bwysau.