Neidio i'r prif gynnwy

Byw'n Well gyda Dementia - Premiere y Ffilmiau

18 Mawrth, 2024

Mae cyfres newydd o ffilmiau sydd wedi’u cynllunio i greu gwell dealltwriaeth o ddementia wedi cael eu dangos am y tro cyntaf yn Wrecsam.

Cafodd mwy na chant o westeion ragflas unigryw o’r pum ffilm fer ‘Byw'n Well gyda Dementia’ yn Sinema’r Odeon ddydd Mercher, 13 Mawrth 2024.

Mynychodd y gwesteion, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, staff iechyd ac gofal cymdeithasol, ddangosiadau prynhawn a gyda'r nos o’r ffilm sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth, a rhoi cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia neu'n gofalu amdanynt.

Gellir gwylio'r pum ffilm ar wahân neu fel un ffilm barhaus, 32 munud o hyd. Maent yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol: 

  • Beth yw dementia?
  • Pryd i ofyn am gymorth?
  • Cael diagnosis
  • Byw gyda dementia
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Daeth y syniad ar gyfer y ffilmiau gan yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd: "Rydym yn gobeithio creu gwell dealltwriaeth o ddementia yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, gan gynnwys sut i gael archwiliad, ac i fyw cystal â phosib gyda’r cyflwr.

“Rydym yn falch iawn gyda’r pum ffilm a grëwyd gan Eternal Media Ltd, cwmni lleol yn Wrecsam. Nid yw'r ffilmiau wedi cael eu sgriptio ac mae'r hanesion personol ynddynt yn cael eu hadrodd gan bobl y mae dementia wedi effeithio ar eu bywydau.

"Bydd gan y ffilmiau apêl y tu hwnt i Gymru, ac rwy'n siŵr y gellir eu defnyddio ar gyfer gwybodaeth a hyfforddiant.

“Rwy’n ddiolchgar i’r pump sy'n ymddangos yn y ffilm, â’n Seiciatrydd Ymgynghorol, Dr Sharmi Bhattacharyya, sy'n cyflwyno. Diolch hefyd i brosiect cymorth cymunedol Caniad a helpodd i ddod o hyd i'r rhai sy'n cymryd rhan.”

Dywedodd Marcus Fair, Cyfarwyddwr yn Eternal Media Ltd: “‘Rydym ni i gyd mor falch o fod wedi cael y cyfle i weithio ar y gyfres arloesol hon. Mae agwedd ragweithiol ac arloesol BIPBC at ddementia yn dyst i dalent, proffesiynoldeb a thosturi eu tîm. Roedd y cast yn hynod hael gyda’u hamser ac yn fodlon rhannu straeon gwerthfawr a fydd yn helpu llawer o bobl eraill. Diolch i bawb o’r holl asiantaethau a fu’n rhan, ac a gefnogodd y cynyrchiadau.”

Dywedodd Luke Pickering-Jones, Rheolwr Gwella Dementia Gogledd Cymru, a drefnodd y digwyddiad: “Mae'r premiere yn golygu ein bod yn gallu hyrwyddo’r ffilmiau’n ehangach a chyrraedd y cynulleidfaoedd mwyaf, er mwyn cael y budd mwyaf ohonynt. Bu cydweithwyr yn Sinema’r Odeon yn hynod gefnogol gan helpu i wneud ein digwyddiad yn hygyrch, yn hwyl ac yn enghraifft wych o ymgysylltu â’r gymuned”

Ariannwyd y ffilmiau gan Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ariannwyd y perfformiadau cyntaf yn garedig gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, a oedd yn awyddus i'r ffilmiau gyrraedd y gynulleidfa fwyaf posibl ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.

Mae'r ffilmiau ar gael yn Saesneg gydag isdeitlau Cymraeg ar yma - https://vimeo.com/eternalmedia/dementiafullserieswsubs.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tracey.Williamson@wales.nhs.uk.