Neidio i'r prif gynnwy

Model cymorth arloesol yn helpu mwy o famau yn Ynys Môn a'u babanod i fwydo ar y fron yn hirach

Mawrth 7, 2024

Mae gwasanaeth cymorth cymunedol cyntaf o'i fath yn helpu mwy o famau yn Ynys Môn a'u babanod i fwydo ar y fron yn hirach.

Mae sesiynau a gynhelir gan brosiect unigryw Bronfwydo Môn yn cynnig cefnogaeth arbenigol i famau a’u babanod, ac maent eisoes wedi cyfrannu'n sylweddol at gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ar yr ynys.

Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf yng Nghymru i gynnig cymorth arbenigol ynghylch bwydo ar y fron yn lleol gan ymgynghorwyr llaetha tra hyfforddedig mewn sesiynau mynediad agored a gefnogir gan glwstwr meddygon teulu.

O’r 140 o famau a fynychodd yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, roedd mwy nag wyth o bob 10 yn bwydo eu plentyn ar y fron yn llwyr am chwe mis neu fwy. Ar y cyfan, mae cyfraddau bwydo babanod chwe wythnos oed ar y fron wedi cynyddu 3% yn Ynys Môn, ac mae nifer y mamau sy'n bwydo eu baban chwe mis oed ar y fron wedi cynyddu 7%.

Mae mamau sy'n bwydo ar y fron yn dweud y byddant yn mynychu sesiynau oherwydd maent yn cynnig cymorth ymarferol, wyneb yn wyneb heb apwyntiad - yn ogystal â chyfle gwerthfawr i gwrdd ag eraill a chymdeithasu â hwy.

 

“Ni allaf fynegi mewn geiriau pa mor anhygoel y bu...”

 

Dywedodd Lucy Clark - mam Lucas, baban egnïol a bywiog 15 mis oed - fod mynychu sesiynau Bronfwydo Môn wedi “newid eu bywydau’n llwyr”. Aeth hi â'i mab bychan newydd-anedig i sesiynau'r gwasanaeth ar ôl teimlo poen wrth gychwyn bwydo ar y fron.

“Ni allaf fynegi mewn geiriau pa mor anhygoel y bu hynny i’n taith,” meddai Lucy.

“Yr unig beth oedd ei angen oedd newidiadau syml iawn i'w ddull o gydio yn y fron a fy null i o afael ynddo. Rwy’n cofio’r tro cyntaf erioed i mi fynd i fwydo Lucas heb deimlo unrhyw boen – roedd yn anhygoel! Fe wnes i gychwyn wylo'n hidl oherwydd roedd yn brofiad aruthrol.

“Ni fuaswn i'n dal yn bwydo ar y fron pe na bawn i wedi mynd i'r sesiwn. Mae'n wych o ran fy iechyd meddwl a fy mywyd cymdeithasol hefyd rwyf wedi dod i adnabod cymaint o ffrindiau newydd.

“Byddaf bob amser yn dychwelyd adref yn teimlo'n llawer gwell, fel pe bai rhywfaint o bwysau wedi'i godi oddi arnaf. Mae pob agwedd ar y profiad hanfodol hwn wedi bod yn wych.”

 

"Mae newydd fod o fudd mawr i mi..."

 

Gwyddai Sian Parry ei bod hi'n awyddus i fwydo ar y fron, felly wnaeth hi gychwyn mynychu'r sesiynau cyn i Mabon ei mab (sydd hefyd yn 15 mis oed erbyn hyn) gyrraedd.

“Roedd gen i lyfr nodiadau a beiro i ysgrifennu nodiadau a chafwyd cryn dipyn o gellwair ynghylch hynny!”, meddai Sian. “Ond roedd i'n awyddus i ddysgu cymaint ag y gallwn i.

“Hyd yn oed yn ystod yr wythnosau cynnar hynny ar ôl i Mabon gyrraedd pan nad oeddwn i'n gallu gyrru, roeddwn i'n gallu cerdded i'r sesiwn ac roedd rhywun ar gael i fy helpu i. Mae gallu cael y gwasanaeth hwn yn ddwyieithog ac yn agos at adref wedi bod yn wych - rwyf wedi elwa'n sylweddol o'r ddarpariaeth.”

Mae bwydo ar y fron yn effeithio'n gadarnhaol yn yr hirdymor ar iechyd mamau a babanod, ac mae’n helpu i leihau’r tebygolrwydd o salwch yn ddiweddarach mewn bywyd.  Mae'n lleihau risg babanod brofi heintiau, asthma a syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS) ac mae hefyd yn lleihau'r risg o gael canser y fron a chanser yr ofari, diabetes math 2 ac osteoporosis yn achos y mamau. Mae bwydo ar y fron hefyd yn helpu i amddiffyn mamau a babanod rhag gordewdra a chlefyd y galon.

 

Gwasanaeth cymunedol unigryw

Dechreuodd Bronfwydo Môn ym mis Medi 2022, gan gynnig sesiynau mynediad agored yn Llangefni a Chaergybi bob wythnos. Mae'r rhain yn ategu'r cymorth sydd eisoes ar gael i famau newydd a darpar famau gan ymwelwyr iechyd a bydwragedd cymunedol.

Mae Dr Dyfrig ap Dafydd o Feddygfa Coed y Glyn yn Llangefni yn arwain clwstwr gofal sylfaenol Ynys Môn, sy’n dod â meddygon teulu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynghyd  i ymateb i anghenion gofal iechyd lleol. Dywedodd ei bod yn galonogol gweld llwyddiant cynnar gan wasanaeth cymunedol unigryw fel rhan o ffocws clwstwr cyfan ar annog diet iach a ffordd egnïol o fyw.

“Yn aml, ni fydd meddygon teulu yn gweld babanod i gael eu harchwiliadau arferol nes byddant wedi troi'n wyth wythnos oed, ac erbyn hynny gall fod yn rhy hwyr i ni hybu a chynorthwyo â bwydo ar y fron,” dywedodd Dr ap Dafydd.

“Felly pan fydd bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn cefnogi mamau a'u babanod newydd-anedig, mae'n bwysig iddynt allu dangos i famau bod cymorth ychwanegol ar gael iddynt ynghylch bwydo ar y fron.

“Mae'r model hwn yn cynnig cymorth arbenigol wedi'i dargedu, ac rydym yn gobeithio y bydd yn sicrhau y gall mwy o famau a theuluoedd deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar fwydo ar y fron a dal ati.”

Mae’r tîm sy’n gyfrifol am Bronfwydo Môn bellach yn archwilio dulliau o ehangu’r dull i ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru – gan gynnwys Arfon, ble bydd rhaglen beilot fer a gefnogir gan gronfa trawsnewid blynyddoedd cynnar Cyngor Gwynedd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.

Mae cefnogaeth eang ynghylch bwydo ar y fron yng Ngogledd Cymru hefyd yn cynnwys tair Cymuned sy’n Croesawu Bwydo ar y Fron yn Abergele, Llanberis a Pharc Caia yn Wrecsam, yn ogystal â thimau arbenigol hollol integredig sy'n cynnig cymorth â bwydo babanod ac sy'n cael eu harwain gan fydwragedd sy'n gweithio yn adrannau mamolaeth Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd.

Gall teuluoedd hefyd ddefnyddio ein map ar-lein hawdd ei ddefnyddio i weld manylion yr holl fusnesau a'r lleoliadau sy’n aelodau o Gynllun Croesawu i Fwydo ar y Fron y bwrdd iechyd.

🔵 Mae canolfannau cymorth â bwydo ar y fron a arweinir gan ymwelwyr iechyd bwydo babanod hefyd yn gweithredu ledled Gogledd Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth ynghylch bwydo ar y fron yn eich ardal chi gan eich ymwelydd iechyd neu ein grwpiau Cyfeillion Bwydo ar y Fron.

 

 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.