Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfleuster ymroddedig ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd cymunedol wedi agor yn Wrecsam

08/04/2024

Bydd cleifion yn elwa o agor Plas Gororau, ym Mharc Technoleg Wrecsam, a fydd yn cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn rhai acíwt.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi agor y cyfleuster, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer pobl sydd angen gwasanaethau gofal iechyd cleifion allanol y gellir eu darparu y tu allan i amgylchedd ysbyty acíwt.

Mae cyfleusterau fflebotomi wedi ehangu eu gwasanaeth i Blas Gororau, gan gynnig dros 40,000 o apwyntiadau profion gwaed y flwyddyn. Mae’r adran cleifion allanol iechyd meddwl, sy'n asesu ac yn trin tua 4,500 o gyfeiriadau bob blwyddyn, wedi symud i'r cyfleuster newydd o'r safle acíwt, gan leihau'r nifer sy'n ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam a gwella profiad cleifion.

Mae canolfan frechu bwrpasol newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd wedi cael ei sefydlu ym Mhlas Gororau, a oedd gynt yng Nghanolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Wrecsam, a bydd yn darparu tu 60,000 o frechiadau’r flwyddyn, gan ddechrau gyda brechiadau atgyfnerthu rhag Covid-19 y Gwanwyn y mis hwn.

Mae’r datblygiad hefyd yn darparu dros 200 o leoedd parcio ar gyfer staff a chleifion y cyfleuster, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth leddfu’r pwysau o ran parcio ceir ar safle’r ysbyty acíwt.

Dywedodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Dwyrain ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Mae hyn yn newyddion hynod gadarnhaol a fydd o fudd mawr i’n cleifion a’r gymuned leol, gan fod ehangu gwasanaethau yn golygu na fydd yn rhaid i gleifion allanol ar gyfer y gwasanaethau hyn barcio neu ymweld â’r prif ysbyty.

“Dim ond taith gerdded fer o brif fynedfa'r ysbyty yw Plas Gororau ac mae’n darparu lleoedd parcio penodol ychwanegol i gleifion a staff.

“Mae hefyd botensial ar gyfer ehangu’r gwasanaethau cymunedol ymhellach i Blas Gororau er mwyn darparu gofod ychwanegol ar draws safle Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae cynlluniau datblygu ar gyfer cam dau yn barhaus gyda chapasiti ar gyfer ehangu’r gwasanaethau ar y safle ymhellach yn y dyfodol.