Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad Holly â'r salon ewinedd yn troi'n ras am oes ar ôl i redwr gael ataliad ar y galon

28.03.2024

Mae crebwyll ac agwedd ddigyffro cynorthwyydd personol yn y Bwrdd Iechyd yn wyneb argyfwng wedi helpu rhedwr a oedd yn dioddef ataliad ar y galon i oroesi ei brofiad anodd ac i ddiolch iddi'n bersonol. 

Gwnaeth Holly Jones adael y gwaith ym mhencadlys Betsi Cadwaladr yn Llanelwy ddydd Mercher 6 Mawrth, ac roedd hi'n gyrru'n ôl ar ôl apwyntiad yn y salon ewinedd. Roedd hi'n edrych ymlaen at gael ei the, pan welodd dyn a oedd yn edrych fel pe bai'n cael trafferthion ar ochr y ffordd.

Gwnaeth hi roi popeth yr oedd ar ei meddwl hi i'r naill ochr pan welodd Matt Betts yn edrych fel pe bai'n chwydu gyferbyn ag Ysgol Glan Clwyd yn y ddinas.

Ar ôl gweiddi draw ato ar ddau achlysur, heb unrhyw ymateb, sylweddolodd fod y rhedwr amaturaidd gyda St Asaph City Striders yn cael trafferthion. Gwnaeth hi barcio'r car yn gyflym, estyn am ei ffôn symudol ac aeth ato i weld p'un a allai ei helpu.

"Fe es i’n agos ato a gofynnais iddo p'un a oedd angen help," esboniodd Holly. "Chefais i ddim ymateb. Roedd ei groen yn edrych yn biws ac roedd yn amlwg ei fod yn cael trafferthion. Sylweddolais fod hyn yn ddifrifol a ffoniais 999 yn syth."

Dysgu CPR mewn 15 munud | RevivR | BHF - BHF 

Wrth i Holly ffonio, gwnaeth gwraig Matt, Paula, sydd hefyd yn aelod o'r clwb rhedeg, droi'n ôl at y man lle'r oedd ei gŵr yn cael trafferthion, yng nghwmni dau o redwyr eraill. 

Dywedodd: "Roedd Matt wedi bod tu ôl i ni. Pan edrychais yn ôl, gwelais i Holly yn rhedeg tuag ato, felly gwnaeth hynny dynnu fy sylw a rhedais tuag atyn nhw. Pan gyrhaeddais i, nid oedd yn anadlu ac nid oedd unrhyw bwls ganddo. Roedd ei wyneb yn biws yn llythrennol ac roedd yn edrych yn erchyll.

Gwnaeth Holly barhau i siarad â gweithredwr y gwasanaethau brys wrth i aelodau'r clwb sydd â phrofiad meddygol ddechrau rhoi dadebru cardio-anadlol (CPR) ar Matt. 

"Dydw i erioed wedi bod mewn sefyllfa fel honno a meddyliais fod angen i mi ffonio 999 a gofyn am gymorth," parhaodd Holly. "Roeddwn i'n teimlo'n wirion yn gweiddi gorchmynion ar bobl ond y cwbl roeddwn i'n ei wneud oedd ailadrodd yr hyn yr oedd y gweithredwr yn ei ddweud wrtha' i. 

"Roedd yn sefyllfa hynod ddifrifol a bu'n rhaid i mi edrych i ffwrdd a thrio cael trefn arna' i fy hun ambell waith. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i grio."

Tra'r oedd CPR yn parhau, gwnaeth aelod o'r clwb frysio i gasglu diffibriliwr o ganolfan chwaraeon yr ysgol gerllaw. 

"Roedd fel pe bai'n dangos ochr orau'r natur ddynol," datgelodd Holly. "Roedd cyn aelodau staff meddygol yn cymryd eu tro i gywasgu ei frest. 

"Gwnaeth gyrrwr arall stopio'r car i weld p'un a allai helpu. Mae'n un o'r pethau mwyaf anhunanol yr ydw i erioed wedi'i weld oherwydd daeth atom ni, aeth ar ei liniau a dechreuodd cywasgu brest Matt hefyd."

Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn cael ei gyflwyno ar ail safle yng Nghymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Pan gyrhaeddodd y diffibriliwr, gwnaeth Holly rannu cyfarwyddiadau gan y gweithredwr cyn i ambiwlans achosion brys gyrraedd, o fewn chwe munud i'w galwad. 

Adenillodd Matt, sy'n 62 oed, ymwybyddiaeth ar ôl ei bumed sioc o'r diffibriliwr ac aed ag ef yn syth i Ysbyty Glan Clwyd. 

Ar ôl canfod rhwystr mewn rhydweli, gwnaeth y tîm osod stent ac roedd Matt yn ôl gartref erbyn dydd Sadwrn o'r un wythnos. 

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydw i wedi sôn o'r blaen am sut mae ein staff yn mynd y filltir ychwanegol i helpu'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru ac i'w cadw'n ddiogel.

"Mae gweithredoedd Holly, yn enwedig i rywun nad yw'n gweithio mewn rôl glinigol, yn atgyfnerthu'r ddelwedd honno'n ymwneud â gweithlu parod eu cymorth ac anhunanol, sy'n ymroddedig i les eraill.

"Mae ei chrebwyll yn dangos y budd sy'n deillio o gael ychydig o hyfforddiant cymorth cyntaf i'w ddefnyddio os bydd sefyllfaoedd yn codi pan fo rhywun yn wynebu achos meddygol brys.

"Rydw i hefyd am ddiolch i aelodau o glwb rhedeg Mr Bett, ac i'r gyrrwr arall a stopiodd i helpu, am roi CPR achubol iddo hyd nes i griw'r ambiwlans gyrraedd.

"Mae’n galonogol gweld sut y gall dieithriaid llwyr fod mor anhunanol a gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl eraill pan fo argyfwng, tydi?

"Rydw i'n falch o alw Holly yn gydweithiwr i mi. Mae'n amlwg bod y drugaredd, yr eglurder a'r pwyll a ddangosodd mewn sefyllfa hynod heriol wedi cyfrannu at achub bywyd Mr Bett. Rydw i mor falch bod canlyniad hapus iddo fo, ei deulu a'i ffrindiau."

Ysbyty Gwynedd yn arbrofi â gynau amldro ar gyfer staff y theatrau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Gwnaeth Holly danbrisio ei chyfraniad hi at adferiad Matt, gan ganmol ei gyd-redwyr a'r gwasanaethau brys. Fodd bynnag, gwnaeth Paula, dirprwy reolwr cyffredinol llawfeddygaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ei chanmol i'r cymylau am weithredu mor gyflym. 

"Ni ddylai Holly fod yn wylaidd," meddai. "Heb Holly a heb y grŵp rhedeg, fyddai Matt ddim yma. Dywedodd y cardiolegydd y byddai wedi bod yn ddarlun cwbl wahanol pe bydden ni wedi bod yn unrhyw le arall, heb i'r clwb rhedeg fod yn yr ardal, heb y diffibriliwr a heb i Holly fod yno. 

"Roedd hi'n gall, yn ddigyffro a llwyddodd i gadw pen trwy'r cyfan. Fe wnaeth hi arwain pawb trwy'r cyfan. Diolch i'r clwb rhedeg ac i Holly y mae'n dal yn fyw. 

Diolch byth ei bod hi wedi stopio. Gwnaeth y ffaith ei bod hi wedi stopio dynnu fy sylw at y ffaith bod rhywbeth o'i le."

Yn ffodus, mae Matt bellach yn mynd o nerth i nerth, mae o'n ôl gartref ym Mhensarn ac o dan lygaid barcud Paula. Mae'r meddygon wedi rhoi gwybod iddo y bydd yn fwy heini nag o'r blaen ac y bydd yn cael dechrau rhedeg eto yn y pen draw, os bydd yn cadw at ei gynllun adsefydlu cardiaidd. 

Dywedodd Paula: "Aeth Matt i'r ysbyty ddydd Mercher ac roedd yn ôl gartref erbyn dydd Sadwrn. Roedd yr holl ofal a gawsom ni a'r sefyllfa gyfan yn wyrth. 

"Roedd criw'r ambiwlans yn anhygoel ac roedd pawb yn Ysbyty Glan Clwyd yn wych. Fe gafodd y gofal gorau posibl."

Byw'n Well gyda Dementia - Premiere y Ffilmiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Gwnaeth Holly ymweld â'r cwpl wythnos yn union wedi'r digwyddiad, gan dderbyn cerdyn diolch a breichled fel arwydd o'u gwerthfawrogiad. 

"Fe welais i Matt a doeddwn i ddim yn meddwl mai'r un person ydoedd," meddai. Roedd o'n edrych yn dda - yn llawer iachach na cyn i hyn ddigwydd mae'n debyg.”

Gwnaeth Holly, a gwblhodd hyfforddiant cymorth cyntaf ryw ddeng mlynedd yn ôl, ynghyd â Matt a Paula, bledio ar bobl i gael hyfforddiant CPR. 

Mae eu clwb rhedeg yn Llanelwy a'u cyn gyfeillion rhedeg ym Margate wedi cytuno i gynnig sesiynau CPR, ynghyd â Park Run Prestatyn. Mae Holly am ddysgu'r sgil hefyd.

"Mae mor swrreal sut y gall eich bywyd newid, o fewn curiad calon, yn llythrennol," meddai Paula. "Byddwn i'n dweud y dylai pawb ddysgu CPR a chymorth cyntaf. Os gall stori Matt ysbrydoli un person i achub bywyd, yna byddwn ni'n hapus."

Ychwanegodd Matt: "Fyddwn i ddim yn siarad â chi nawr pe na bai pawb wedi gweithredu mor gyflym. Fe wnaeth pawb gyd-dynnu ac rydw i mor ddiolchgar."

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)