Neidio i'r prif gynnwy

Rhieni yn dwyn sylw at gyflwr prin eu mab i godi ymwybyddiaeth

21 Chwefror, 2024

Mae rhieni baban 10 mis oed yn codi ymwybyddiaeth o gyflwr prin a wnaeth orfodi eu mab i dreulio saith diwrnod mewn uned gofal dwys ar ôl cael ei eni.

Yn ystod mis Ebrill 2023, fe wnaeth Jade Baker a'i gŵr, Chris, groesawu eu baban James bedair wythnos yn gynnar yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Jade yn Ysgrifenyddes Tîm yn Ysbyty Bryn y Neuadd, a daeth hi i'r ysbyty i gael sgan arferol, ond dechreuodd esgor yn ddigymell a ganwyd James 30 munud yn ddiweddarach.

Dywedodd: “Er ei fod wedi'i eni'n gynamserol, roedd James yn pwyso yr un faint â baban iach, ond dechreuodd y problemau pan geisiais ei fwydo o'r fron, ac aeth y meddygon ati i wneud rhywfaint o archwiliadau arno.

“Ar ôl cynnal rhywfaint o brofion, dychwelodd y meddygon atom a dweud wrthym eu bod yn credu fod ganddo gyflwr o'r enw Ffistwla Traceo-esoffogaidd, sy'n golygu na all lyncu.”

Mae Ffistwla Traceo-esoffogaidd (TOF) yn gyflwr prin sy'n effeithio ar un o bob 3,500 o fabanod. Mae'r cyflwr yn golygu nad yw'r oesoffagws wedi'i gysylltu â'r stumog yn iawn, ac felly, ni all y baban lyncu.

Trosglwyddwyd James i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, ac yno, cafodd lawdriniaeth y diwrnod canlynol i gysylltu ei oesoffagws â'i stumog.

“Cawsom ofal gwych yn Ysbyty Gwynedd. O'r foment pan wnes i gychwyn esgor yn ddigymell, ac yn ystod yr enedigaeth a phan gawsom ni sioc wrth sylweddoli nad oedd James yn iawn, fe wnaethant oll (gan gynnwys y tîm a wnaeth ein cludo i Alder Hey) ofalu amdanom ni a chyfathrebu'n ddiddiwedd â ni. Fe wnaethon nhw dawelu ein meddyliau mewn sefyllfa wirioneddol frawychus ac rwy’n ddiolchgar am hynny.  Diolch arbennig i Sarah Harris a ddaeth â James i'r byd. Trwy gyd-ddigwyddiad, hi oedd ein bydwraig gymunedol ar adeg geni fy mhlentyn cyntaf, Penny. Roedd hi'n wych ac yn barod iawn i rannu gwybodaeth, ac rwy'n ddiolchgar dros ben iddi am ddod â'n mab i'r byd yn ddiogel.

“Roedd y llawdriniaeth a gafodd James yn Alder Hey yn llawdriniaeth fawr i faban bychan, a chafodd ofal gan y tîm gofal dwys am y saith diwrnod dilynol i roi cyfle i'w gorff orffwys a gwella. Wedi hyn, fe wnaeth y tîm meddygol ei ddeffro i weld a allai anadlu heb gymorth.”

Diolch byth, cafodd James adferiad llwyr wedi'r llawdriniaeth ac roedd y ddau fis nesaf yn ymwneud ag adeiladu trefn fwydo a oedd yn cynnwys canfod a allai fwydo a beth y gallai ei oddef.

Oddeutu tair wythnos wedi'r llawdriniaeth, profodd yr hyn a elwir yn 'dynhau' - yr oesoffagws yn culhau. Yn sgil hyn, cafodd driniaeth ymestyn i agor rhan gul y bibell fwyd - ers hynny, mae wedi cael dwy driniaeth arall o'r math hwn, a elwir yn ymledu.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, yn ogystal â rhannu eu stori'n gyhoeddus, mae tad James, Chris, yn mynd i redeg Marathon Llundain i godi arian at Elusen TOFS (elusen sy'n cynnig cymorth gydol oes i'r sawl a anwyd yn methu â llyncu), ac mae'r elusen hon wedi cynorthwyo'r rhieni ers genedigaeth eu mab.

Ychwanegodd Jade: “Pan ddatgelodd Elusen TOFS eu bod yn chwilio am wirfoddolwyr i redeg y marathon ar eu rhan, bachodd Chris ar y cyfle.

“Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw berson cyswllt ar gael i gynnig cymorth ynghylch TOFS yng Ngogledd Cymru, ac rydym ni'n gobeithio gallu dod yn bobl gyswllt fel y gallwn helpu teuluoedd fel gwnaeth yr elusen ein helpu ni”

I gefnogi'r teulu a chyfrannu, cliciwch yma