Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

03/08/23
Cefnogi bwydo ar y fron: tair ardal yng ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cymorth ar gyfer mamau a babanod

Abergele, Llanberis a Pharc Caia yn Wrecsam yw’r rhannau cyntaf o Ogledd Cymru i gael eu henwi fel Cymunedau Croesawu Bwydo ar y Fron oherwydd y gefnogaeth eang sydd ar gael i famau, babanod a’u teuluoedd.

02/08/23
Adran Anesthetig ac Adran Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd wedi eu graddio uchaf yng Nghymru gan hyfforddeion

Mae meddygon iau wedi graddio Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau yng Nghymru i hyfforddi mewn Anesthetig a Meddygaeth Gofal Dwys.

02/08/23
Mae'r ystafell hyfforddi dialysis yn y cartref newydd yn "hollol wych, mae'r staff yn rhagorol a dwi'n cael gofal da"

Gallai ystafell hyfforddi newydd haneru cyfanswm yr amser sydd ei angen i addysgu cleifion sydd â chlefyd cronig yr arennau i gynnal dialysis yn y cartref.

Mae'r cyfleuster dau wely ar gyfer cleifion allanol yn adran arennol Ysbyty Glan Clwyd wedi'i agor yn swyddogol heddiw (2 Awst, 2023) ac mae staff a chleifion wedi croesawu'r datblygiad.

01/08/23
"Fe wnaethon nhw wrando arnaf, gan wneud i fwydo ar y fron weithio i ni" – timau cymorth arbenigol yn helpu cannoedd o famau newydd a babanod newydd-anedig

Mae mamau a babanod newydd-anedig yn cael cynnig cymorth ychwanegol gyda bwydo ar y fron yn ystod eu dyddiau cyntaf gwerthfawr gyda'i gilydd fel rhan o brosiect peilot llwyddiannus.

31/07/23
Meddyg Ymgynghorol yn Wrecsam, sy'n gwella gofal i ddioddefwyr damweiniau car, gyda'r siawns o ennill y wobr uchaf yn y DU

Mae nyrs ymgynghorol y mae ei ymchwil wedi newid y ffordd y mae gwasanaethau brys yn trin dioddefwyr damweiniau sy’n gaeth yn eu ceir wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog.

27/07/23
Deallusrwydd artiffisial yn helpu i ganfod achosion o ganser yng Nghymru

Mae deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd y gwneir diagnosis o achosion posibl o ganser y prostad a chanser y fron yng Nghymru.

26/07/23
Ysbyty Gwynedd yn cyrraedd carreg filltir robotig

Mae timau llawfeddygol orthopedig yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi perfformio 100 o lawdriniaethau gosod pen-glin newydd â chymorth robotig gan ddefnyddio technoleg robotig arloesol.  

26/07/23
Cynhaliodd Dyfed Edwards ymweliad trawsffiniol yr wythnos hon gan ymweld ag Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG Ysbyty Plant Alder Hey ac Ysbyty'r Galon a'r Frest Lerpwl

Gwnaeth ein Cadeirydd, Dyfed Edwards gynnal ymweliad trawsffiniol yr wythnos hon i drafod trefniadau gweithio mewn partneriaeth sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau gofal arbenigol ar gyfer miloedd o bobl o bob rhan o ogledd Cymru bob blwyddyn.

24/07/23
Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ar frig rhestr lleoedd gorau i hyfforddi yn y DU gan feddygon iau

Mae meddygon dan hyfforddiant o’r farn mai Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yw’r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig.

21/07/23
Uned Mân Anafiadau Tywyn yn ailagor

Mae Uned Mân Anafiadau Tywyn wedi ailagor i gleifion y mis hwn yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus.

19/07/23
Carol Shillabeer yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro

Mae Dyfed Edwards, Cadeirydd Dros Dro, wedi cadarnhau y bydd Carol Shillabeer yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tan Mawrth 2024.

13/07/23
Mae uned prawf gwaed newydd yn lleihau amseroedd aros o wythnosau i ddyddiau'n unig

Mae amseroedd aros i gleifion sy'n disgwyl apwyntiad prawf gwaed yn Wrecsam wedi gostwng o chwe wythnos i dri diwrnod diolch i Uned Fflebotomi newydd.

06/07/23
Rhannwch eich profiadau fel gofalydd dementia teuluol er mwyn helpu i wella cymorth

Mae arbenigwyr yn galw ar bobl sy’n darparu gofal i aelod o’r teulu sy’n byw gyda dementia i rannu eu profiadau er mwyn gwella adnoddau hyfforddi i’w cefnogi.

03/07/23
Ymgyrch i ailfeddwl am yfed yn dilyn newidiadau i arferion yfed alcohol yn ystod y pandemig

Gofynnir i bobl yng Ngogledd Cymru ailfeddwl am eu harferion yfed yn dilyn rhybudd y gallai yfed alcohol ‘cudd’ fod yn peryglu eu hiechyd.

29/06/23
Meddyg Ysbyty Gwynedd i ddringo 15 copa uchaf Cymru i ddiolch i elusen diffoddwyr tân

Mae meddyg yn Ysbyty Gwynedd ar fin ymgymryd â Her 3000 Troedfedd Cymru er budd Elusen y Diffoddwyr Tân, fel diolch i'r diffoddwyr tân lleol a gynorthwyodd ei theulu yn dilyn tân yn ei thŷ.

28/06/23
Zoe yn ennill gwobr fawreddog yn Seremoni Gwobrau'r Lluoedd Arfog

Mae cyn-swyddog yn y fyddin barhaol sy'n gweithio i gynorthwyo cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn ystod eu teithiau gofal iechyd wedi ennill un o wobrau mawreddog y lluoedd arfog.

Zoe Roberts yw arweinydd cydweithredol cyfamod y lluoedd arfog a gofal iechyd i gyn-aelodau'r lluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

28/06/23
'Nid yw pobl yn siarad am y peth oherwydd mae'n eich cynhyrfu' - y gofeb sy'n dathlu Sêr Bach sydd wedi huno

Bydd teyrnged deimladwy i fabanod na chawsant erioed y cyfle i ddisgleirio yn ddigon hir yn taflu goleuni ar eu bywydau fis nesaf.

Bydd Gwasanaeth Coffa Babanod Sêr Bach yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Sul Gorffennaf 2, gyda rhieni’n cael eu hannog i gynnau cannwyll wedi’i gosod mewn seren ar gyfer eu hanwylyd coll.

27/06/23
'Os bydd unrhyw un yn gofyn beth ddysgodd Covid i ni, dyma'r ateb mewn brics a morter'

Mae meddyg ymgynghorol wedi canmol Uned Cymorth Anadlol (RSU) flaengar a ddyluniwyd yn sgil gwersi’r pandemig Covid.

Gwnaeth Dr Dan Menzies, meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth anadlol, ei sylw yn agoriad yr uned ar Fehefin 15.

26/06/23
Russell Caldicott

Mae’r Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Carol Shillabeer wedi croesawu Russell Caldicott fel cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Russell yn gyfrifydd cymwysedig, ac yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad o fewn sefydliadau'r GIG.

26/06/23
Ysbyty Maelor Wrecsam yn agor ystafell mân driniaethau newydd at ddibenion llawdriniaethau ar y dwylo

Mae ystafell mân driniaethau at ddibenion llawdriniaethau ar y dwylo wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam i helpu i gwtogi amseroedd aros.